Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diwrnodau Darganfod a digwyddiadau Cwrdd â'r tîm

Erioed wedi ystyried gyrfa fel Diffoddwr Tân?

Mae cyfle i ddarganfod mwy yn un o'n digwyddiadau sydd ar y gweiill i chi weld os yw'r rôl yn iawn i chi.

 

Ymunwch â'n Tîm!

Rydyn ni’n chwilio am weithlu sy’n adlewyrchu'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu - mae hyn yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Gogledd Cymru.

Byddan ni’n croesawu ceisiadau gan bawb ac rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Rydym yn annog pobl o grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli i gychwyn gyrfa gyda ni.

 

Ydi gyrfa fel Diffoddwr Tân yn un iawn i ti?

Efallai dy fod wedi bod yn meddwl amdano ers tro, neu yn newydd ddechrau meddwl am opsiynau gyrfa, mae ein digwyddiadau darganfod yn lle gwych i ddechrau.

Wrth i ni baratoi ar gyfer recriwtio Diffoddwyr Tân Llawn Amser yn y dyfodol, yn gynnar yn 2027, byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn hydref 2026.

Bydd y rhain yn cynnwys:

  •      Digwyddiadau Cwrdd â'r Tîm ar-lein ac wyneb yn wyneb
  •     Diwrnodau Darganfod Wyneb yn Wyneb

Bydd cyfle i ddysgu mwy am y rôl gan ein tîm, holi am realiti'r swydd, a'r gofynion corfforol sydd ei angen.

Nodyn: Mae’n rhaid bod yn 18 oed neu'n hŷn i fynychu digwyddiadau wyneb yn wyneb.

 

Cofrestrwch eich diddordeb mewn digwyddiadau sydd i ddod

Cofrestrwch yma, gan ddewis y pwnc Swyddi a Gyrfaoedd /  'Diwrnodau Darganfod a Digwyddiadau Cwrdd â'r Tîm'.

 

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen