Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwybodaeth i bobl sydd yn cyflogi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad

Gwybodaeth i bobl sydd yn cyflogi Diffoddwyr Tân Ar-Alwad

Rydym yn apelio ar gyflogwyr lleol sydd yn dymuno helpu eu cymuned i gefnogi eu staff i ddod yn Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad.

Daw ein Diffoddwyr Tân ar alwad o bob math o gefndiroedd a galwedigaethau - nid oes y fath beth â diffoddwr tân ‘arferol’.

Er enghraifft fe allant fod yn weithwyr â sgiliau, athrawon, gweithwyr cynhyrchu, rheolwyr, gweithwyr swyddfa neu rieni sy’n aros yn y cartref.

Fel cyflogwr, fe welwch chi fod llawer o fuddion ynghlwm â chael Diffoddwr Tân Ar Alwad yn aelod o’ch tîm.

 

Beth allwch chi ei wneud i ni:

  • Rhannu gwybodaeth am rôl y Diffoddwr Tân Ar Alwad gyda’ch gweithwyr.
  • Rhoi amser i ffwrdd o’r gwaith i’ch gweithwyr i’w caniatáu i hyfforddi fel Diffoddwyr Tân Ar Alwad.
  • Cytuno i ryddhau staff ar adegau penodol i ymateb i achosion brys.

 

Beth allwn ni ei wneud i chi:

  • Hyfforddi’ch staff i safon uchel mewn meysydd megis diogelwch tân, codi a chario a chymorth cyntaf.
  • Gwella sgiliau eich gweithwyr mewn sawl ffordd, gan gynnwys datblygu gwaith tîm, datrys problemau a sgiliau cyfathrebu.
  • Sicrhau bod eich cymuned a’ch gweithle mor ddiogel â phosib.
  • Codi proffil eich cwmni yn y gymuned leol.

Mae nifer o gyflogwyr wedi dweud wrthym ni fod cyflogi Diffoddwyr Tân Ar Alwad wedi eu helpu i godi proffil y cwmni. Mae papurau lleol a chyhoeddiadau masnachu yn aml iawn yn dangos diddordeb mewn cwmnïau sydd yn cefnogi cymunedau lleol.

Mae parch mawr tuag at ddiffoddwyr tân yn y gymuned, ac felly trwy gefnogi Diffoddwyr Tân Ar Alwad bydd pobl yn gweld eich bod yn gwmni mawr eich gofal.

Os ydych chi’n gyflogwr sydd gan weithiwr sydd â diddordeb mewn gyrfa fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, cysylltwch â ni am fwy o fanylion.

 

Darllenwch ein Canllaw i Gyflogwyr.

 

Cysylltwch â ni

Os hoffech gymryd rhan a’n helpu ni i’ch helpu chi a’ch cymuned ffoniwch yr Adran Adnoddau Dynol ar 01745 535 250.

 

 

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen