Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyfarfod â’r Bwrdd Gweithredol

Cyfarfod â’r Bwrdd Gweithredol

Mae'r Bwrdd Gweithredol yn gyfrifol am redeg y Gwasanaeth o ddydd i ddydd.

Dawn Docx Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr

Chief Fire Officer Dawn Docx

Dawn Docx yw’r Prif Swyddog Tân cyntaf yng Nghymru i gael dyrchafiad o gefndir annodweddiadol. Mae hi'n dod â phrofiad gweithredol strategol o dri gwasanaeth tân ac achub ar draws y DU i’r rôl honno.

Dechreuodd gyrfa Dawn yn y gwasanaeth tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Cumbria lle wnaeth hi gyrraedd rôl Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol. Yn 2006 symudodd hi i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel Prif Swyddog Cynorthwyol, gan ddod yn Ddirprwy Brif Swyddog Tân benywaidd cyntaf Cymru, yn ôl yn 2009.  Ar ôl llywio’r Gwasanaeth drwy’r blynyddoedd o galedi, symudodd i Wasanaeth Tân ac Achub Manceinion (GMFRS) fel Dirprwy Swyddog Tân Sirol yn 2017.  Roedd hyn ar adeg anodd i GMFRS, ar ôl y bomio yn yr Arena ac o dan drefniadau llywodraethu newydd dan arweiniad y Maer newydd, Andy Burnham.

Yn adnabyddus am ei llonyddwch a chreadigedd proffesiynol, arweiniodd ar gyhoeddi adroddiad Kerslake ac roedd hi wrth y llyw yn ystod tân mwyaf GMFRS ar Saddleworth Moor yn 2018. Chwaraodd ran bwysig yn natblygiad diwylliant GMFRS er gwaethaf yr heriau o gyflawni argyfwng gwasanaeth yn ystod y pandemig.

Ar ôl y pandemig, roedd Dawn yn falch i gael dychwelyd i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel Prif Swyddog Tân yn 2021. Yn ystod ei phedair blynedd diwethaf, mae Dawn wedi ffocysu ar ddiwylliant, argaeledd ar-alwad a gwella hyfforddiant. Hi sy'n arwain o ran Pensiynau ar yr NFCC ac mae hi'n gynghorydd i'r Cydgyngor Cenedlaethol (NJC).

Helen MacArthur Assistant Chief Fire Officer

Helen MacArthur

Ymunodd Helen MacArthur â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ym mis Ebrill 2018 fel Prif Swyddog Cynorthwyol ac mae ganddi gyfrifoldeb am gyllid, caffael, AD ac ystadau. Mae hi’n gyfrifydd cymwysedig gyda 25 mlynedd o brofiad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys rolau gyda GIG Cymru ac Archwilio Cymru. Wedi ymrwymo i ddatblygu diwylliant o ddysgu a datblygu, roedd hi'n gweithio’n helaeth gyda chydweithwyr clinigol i ymgorffori ansawdd yn y strategaeth fusnes fel rhan o’r agenda drawsnewid ar gyfer GIG Cymru.

Ers ymuno â'r Gwasanaeth, mae hi wedi arwain ar nifer o brosiectau gan gynnwys gweithredu gweithlu integredig newydd a system gyflogres, yn ogystal â phrosiect trawsnewid o fewn yr adran gyllid. Yn lleol, mae hi wedi cynrychioli’r Gwasanaeth ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ac mae’n gwasanaethu fel Ymddiriedolwr ar Fwrdd Pentre Peryglon, elusen sy’n darparu addysg ar ddiogelwch i bobl ifanc ar draws Gogledd Cymru.

Mae hefyd yn cynrychioli Sector Tân ac Achub Cymru ar Bwyllgor Cyllid NFCC ac yn eistedd ar y Pwyllgor Llywio mewn perthynas â’r her gyfreithiol ar amddiffyniad trosiannol FPS 2015.

Justin Evans Assistant Chief Fire Officer

Ymunodd Justin Evans â Gwasanaeth Tân Clwyd yn 1994 ychydig cyn i Wasanaethau Tân Clwyd a Gwynedd uno i greu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Fel Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, mae ei feysydd cyfrifoldeb yn cynnwys Hyfforddiant a Datblygu Sefydliadol, Iechyd, Diogelwch a Lles.

Ers ymuno â'n Tîm Arwain Gwasanaethau, mae o wedi arwain yr adolygiad o'n darpariaeth hyfforddiant gweithredol, ac ar hyn o bryd o yw noddwr prosiect ein canolfan hyfforddi newydd. Mae'n cynrychioli'r Gwasanaeth ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

Yn ystod ei yrfa, mae Justin wedi gweithio ar draws ystod o'n swyddogaethau Gwasanaeth, gyda rolau arwain mewn Ymateb, Hyfforddiant, Gweithrediadau Technegol, Atal ac Amddiffyn.

Mae meithrin diwylliant o barch a gonestrwydd o fewn ein sefydliad yn bwysig iddo, ac mae hyn yn cael ei ategu gan ei rhan mewn prosiectau fel datblygiad diweddar ein strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Y tu allan i'r gwaith, mae'n blaenoriaethu fy lles corfforol a meddyliol trwy ymarfer corff yn rheolaidd.  Mae'n mwynhau beicio ar y ffordd ac mae'n aelod o'i glwb rhedeg lleol.  Fel arfer, gellir dod o hyd i Justin yn rhedeg neu'n marsialu yn ei Parkrun lleol ar fore Sadwrn.

 

Anthony Jones Assistant Chief Fire Officer

Anthony Jones

Ymunodd Anthony Jones â Frigâd Dân Llundain fel diffoddwr tân ym 1998, gan drosglwyddo i Wasanaeth Tân ac Achub Sir Gaer yn 2003. Yn gynnar yn 2022 cafodd Anthony y pleser o ymuno â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fel Pennaeth Gweithrediadau ac Ardal y Dwyrain o’r Gwasanaeth gan symud i fod yn Bennaeth Cynllunio, Perfformiad, a Thrawsnewid yn haf 2023.

Fel Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, mae ei feysydd cyfrifoldeb yn cynnwys, Cynllunio, Perfformiad a Thrawsnewid a Rheoli Risg, Prosiect 'Unwaith i Gymru' a chysylltu â Phrif Gynghorydd Tân ac Achub ac Arolygydd Llywodraeth Cymru.

Ers ymuno â dîm Arweinyddiaeth y Gwasanaeth, mae o wedi arwain ar yr Adolygiad o’r Ddarpariaeth Frys, datblygu'r Fforwm Ymgysylltu â Staff, wedi datblygu ein hadran newydd a'n Cynlluniau Rheoli Risg Cymunedol

Mae'n angerddol am gefnogi'r rhai sydd â niwroamrywiaethau (mae gen i ddyslecsia fy hun) a gwahaniaethau unigol, ac Anthony yw'r cefnogaeth strategol ar gyfer ein Rhwydwaith Staff Niwroamrywiaeth.

Mae'n aelod o'r Sefydliad Peirianwyr Tân (IFE), Sefydliad Rheoli'r Siartredig (CMI) a Chyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC). Mae gan o MBA a gafodd ym Mhrifysgol Swydd Gaerhirfryn, ac mae o wedi cwblhau’r Rhaglen Arweinyddiaeth Gweithredol NFCC.

Y tu allan i'r gwaith mae'n brysur gyda'i blant ifanc a'n ci. Mae o'n mwynhau amser gyda'i deulu a'm hymarferion, Kung Fu gyda'i fab hynaf a gwirfoddoli fel hyfforddwr rygbi ar gyfer tîm ei mab ieuengaf.

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen