Yr Iaith Gymraeg
Yr Iaith Gymraeg
Ein Hymrwymiad i'r Iaith Gymraeg
Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, rydym yn credu y dylid, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.
Rydym yn gwasanaethu amrywiaeth gyfoethog o gymunedau, a threftadaeth naturiol a diwylliannol yn gefn iddynt.
Rydym yn ceisio darparu gwasanaethau yn deg i bob ardal yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cydnabod ein dyletswydd at ein staff hefyd, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn byw yng Ngogledd Cymru eu hunain ac yn adlewyrchu cyfansoddiad ieithyddol a diwylliannol eu cymunedau eu hunain.
Rydym yn ymfalchio ein bod wedi cymryd yr iaith o ddifri ers blynyddoedd. Trwy gydnabod ein dyletswyddau moesol a chyfreithiol i ateb disgwyliadau'r cyhoedd ac i amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol yr ardal, rydym hefyd yn cydnabod bod manteision cadarnhaol i'w cael i'r gwasanaeth trwy gynnal ein busnes cyhoeddus yn y ddwy iaith. Mae arbed bywydau a lleihau risg wrth galon cenhadaeth yr Awdurdod -mae'r iaith yn hanfodol i'w lwyddiant.
Rydym ni felly'n annog y cyhoedd i siarad yn eu dewis iaith wrth gysylltu gyda ni - boed hynny oherwydd bod ganddynt ymholiad cyffredinol, yn ystod archwiliad diogel ac iach neu mewn argyfwng.
Dyma ddau aelod o'r staff yn sôn am bwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle fel rhan o gyfres o fideos a gynhyrchwyd ar y cyd â Choleg Cambria: