Nam Corfforol

Sut mae defnyddiwr cadair olwyn neu rywun arall sydd â nam arall ar eu symudedd yn eu diogelu eu hunain rhag y risg o dân?

Pobl ag Anableddau neu Nam ar Symudedd.

Petai tân yn cychwyn yn eich cartref, byddai eich siawns o oroesi yn dibynnu ar ba mor sydyn a diogel y byddech chi’n gallu mynd allan. Dylid annog pobl sydd ag anawsterau symudedd difrifol i gael eu hystafell wely mor agos i’r drws allanfa olaf ag y bo modd yn ymarferol, neu le cymharol ddiogel.

Dylai pobl sydd ag anableddau wybod bod dyfeisiau arbennig ar gael, megis larymau mwg â phad dirgrynol neu olau’n fflachio i bobl sydd â nam ar eu clyw, larymau mwg â golau strôb y tu allan i’w cartref er mwyn denu sylw cymdogion neu bobl yn mynd heibio, a systemau larwm neu alwadau brys i alw am help.

Diogelwch tân yn y cartref

Wrth addasu eich cartref ar gyfer person sy’n defnyddio cadair olwyn, rhaid deall a rhagweld y math o heriau sy’n eu hwynebu o ddydd i ddydd.

Diogelwch tân

Gan fod eu symudedd yn gyfyngedig ac yn araf, mae angen darparu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn rhag ofn y bydd peryglon tân.

Dylid creu cynllun dianc personol, a’i esbonio’n glir i’r defnyddiwr ac i bawb yn y cartref.

Hefyd, dylai’r allanfa dân fod yn addas ac yn glir o rwystrau a llanast bob amser.

Drwy feddwl am yr ystyriaethau hyn a’r materion canlynol drwy’r amser, bydd unrhyw ddefnyddiwr cadair olwyn yn teimlo’n gwbl gyfforddus, symudol a diogel yn ei gartref.

Beth i’w wneud cyn i dân ddigwydd . . .

  • Nodi ble mae’r allanfa neu’r allanfeydd brys agosaf yn eich cartref. Mae’n bwysig gwybod bob amser ble mae’r allanfa fwyaf diogel a chyflym o unrhyw leoliad, a dylai hon bob amser fod yn seiliedig ar eich galluoedd corfforol. Os oes modd, ceisiwch gael eich lle cysgu yn agos at allanfa hawdd ei chyrraedd. Efallai y bydd angen gwneud addasiadau fel ei bod yn hawdd mynd allan mewn argyfwng, megis cael ramp neu gael gwared ar rwystrau. Gwnewch yr addasiadau angenrheidiol i sicrhau llwybr dianc diogel. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn gallu agor pob ffenest a drws sy’n cloi yn eich cartref.
  • Gosodwch larymau gwres neu fwg ymhob rhan o’ch cartref. Dyma’r lleoliadau pwysig ar gyfer larymau mwg: y gegin, y seler, ardaloedd storio, ardaloedd sbwriel, atig yr ydych yn ei ddefnyddio, ardaloedd cysgu, a chyntedd.
  • Gall larymau gwres a mwg olygu tua 60% yn llai o siawns o farw mewn tân yn y cartref. Mae’n ddyfais bwysig i’w chael yn eich cartref. Mae hefyd yn bwysig gwneud yn siŵr fod eich larymau mwg yn gweithio’n iawn. Gwnewch yn siŵr fod larymau mwg yn cael eu cadw’n lân ac yn cael eu hwfro’n rheolaidd i gael gwared ar lwch. Hefyd, dylech chi brofi’r batris bob wythnos a rhoi batris newydd i mewn ddwywaith y flwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn. Os yw eich larymau mwg wedi’u cysylltu â’r cylchedau trydan yn eich cartref, dylech gael batris wrth gefn rhag ofn y bydd y trydan yn torri. Os ydych yn methu gwneud y tasgau hyn eich hun, gofynnwch am help gan eich ffrindiau, aelodau o’r teulu neu reolwyr yr adeilad.
  • Yn ogystal â larymau mwg, dylid gosod larymau carbon monocsid (CO) yn eich cartref hefyd, a hynny mewn ardaloedd wrth ymyl dyfeisiau sy’n llosgi tanwydd. Mae carbon monocsid yn gyfansoddyn di-liw a diarogl sy’n cael ei gynhyrchu os bydd rhywbeth yn llosgi’n anghyflawn - fel fflamau agored, gwresogyddion gofod, gwresogyddion dŵr, neu simneiau wedi blocio - gan fod hynny’n lladd os yw’r crynodiadau’n uchel.
  • Dysgwch sut i ddefnyddio offer diffodd tân. I bobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn, efallai y byddwch eisiau ystyried gosod offer personol mewn lle hawdd ei gyrraedd. Bydd hyn yn fuddiol os na fyddech yn gallu “stopio, disgyn a rholio” petai eich dillad yn mynd ar dân.
  • Lle da arall i gael gwybodaeth yw eich gwasanaeth tân lleol. Gallant roi gwybodaeth werthfawr am lwybrau dianc gwell, cyfarpar a pheryglon posibl yn eich cartref.

Beth i’w wneud os bydd tân yn digwydd . . .

  • Os oes modd, profwch y drysau cyn eu hagor. I wneud hyn yn ddiogel, defnyddiwch gefn eich llaw ac ymestyn yn uchel i gyffwrdd y drws, y bwlyn, a’r gofod rhwng y drws a’r ffrâm. Os yw’r drws yn teimlo’n boeth, peidiwch â’i agor a defnyddiwch allanfa arall os oes un ar gael. Os yw’r drws yn teimlo’n oer, dylech ei agor yn araf a mynd allan, gan aros mor agos i’r llawr ag y bo modd. Os yw’n amhosib i chi aros yn isel ar y llawr, rhowch orchudd dros eich ceg a’ch trwyn ac ewch allan o’r ystafell mor sydyn ag y bo modd. Mae gorchuddio eich ceg a’ch trwyn yn eich amddiffyn rhag anadlu nwyon peryglus.
  • Ewch allan o’ch cartref mor fuan â phosibl. Gadewch eich holl eiddo personol y tu mewn. Dydy pethau o’r fath ddim yn werth peryglu eich bywyd. Peidiwch â defnyddio lifft, a pheidiwch â mynd yn ôl i mewn ar ôl mynd allan o’r tŷ. Ewch i ofyn am help gan eich cymdogion a chysylltwch â’r gwasanaeth tân os nad ydynt eisoes wedi cael eu galw at y tân.
  • Os byddwch chi’n cael eich dal yn sownd yn eich ystafell, caewch bob drws rhyngoch chi a’r tân. Llenwch y craciau ymhob lle agored fel nad yw’r mwg yn dod i mewn i’r ystafell. Os oes modd, cysylltwch â’r gwasanaeth tân a dywedwch ym mha ystafell ydych chi. Gan ddibynnu ar eich gallu corfforol, gallech hefyd dynnu sylw’r ymatebwyr brys pan fyddant yn cyrraedd drwy hongian neu chwifio tywel drwy’r ffenest (os yw’r ffenest gerllaw, heb fod uwchben neu’n agos at y tân, ac os yw’n ddiogel ei defnyddio).
  • Os ydych yn berchen ar ffôn symudol, dylech ei gadw gerllaw drwy’r amser. Drwy gadw’r ffôn wrth eich gwely yn y nos, neu hyd yn oed yn yr ystafell ymolchi tra byddwch yn cael cawod, byddwch yn cael ffordd o gyfathrebu drwy’r amser hyd yn oed os byddwch yn sownd mewn ystafell ac yn methu cyrraedd ffôn y tŷ.

Cyngor ar Atal Tân wrth Goginio:

  • Peidiwch byth â gadael y stof heb gadw golwg arni, ddim hyd yn oed am funud. Cofiwch ddiffodd y stôf.
  • Gwisgwch ddillad tynn wrth goginio dros fflam agored.
  • Os bydd bwyd neu saim yn mynd ar dân, rhowch gaead ar y badell i fygu’r fflamau. Peidiwch byth â defnyddio dŵr i ddiffodd tân saim!
  • Trowch handlenni’r sosbenni draw oddi wrth du blaen y stôf fel nad oes posib eu taro drosodd neu eu tynnu i lawr.

Wrth ddefnyddio Peiriannau/Cyfarpar Trydan:

  • Tynnwch blwg unrhyw beiriant sy’n dechrau cael aroglau rhyfedd neu sy’n cynhyrchu mwg. Peidiwch byth â defnyddio peiriant sydd â gwifrau’n dangos.
  • Dylech gael ceblau newydd os oes rhai wedi mynd yn frau neu wedi’u difrodi.
  • Peidiwch byth â gorlwytho ceblau ymestyn â gormod o wifrau.
  • Cadwch yr holl geblau ymestyn draw o fannau prysur.
  • Dylai blancedi trydan gael eu diogelu rhag gorboethi. Peidiwch byth â golchi blancedi trydan oherwydd gallai hynny achosi difrod i’r gylched trydan.

Wrth Ysmygu:

  • Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely.
  • Gwnewch yn siŵr nad ydych yn gadael deunyddiau ysmygu (e.e. sigarét sydd ar dân) heb gadw golwg arnynt.
  • Byddwch yn ofalus wrth ysmygu sigaréts. Peidiwch ag ysmygu os byddwch dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau presgripsiwn a allai eich gwneud yn gysglyd.
  • Rhowch y llwch mewn dŵr cyn cael gwared arno yn y bin.

Wrth ddefnyddio Gwresogyddion

Systemau yn eich Cartref:

  • Gwnewch yn siŵr fod digon o le o gwmpas gwresogyddion gofod.
  • Gosodwch y gwresogyddion o leiaf 3 troedfedd i ffwrdd oddi wrth ddeunydd fflamadwy.
  • Cadwch bellter diogel rhyngoch chi a’r gwresogydd.
  • Trefnwch i lanhau systemau gwresogi a simneiau o leiaf unwaith y flwyddyn.
  • Peidiwch â gadael deunyddiau fflamadwy fel tanwydd yn eich cartref. Mae’n syniad da i gadw deunyddiau fel y rhain y tu allan neu mewn garej neu sied ar wahân i’r tŷ.
  • Dylai’r cynnyrch amddiffynnol cywir orchuddio llefydd tân.

Ffyrdd o Ddianc i Bobl Anabl a Phobl sydd â Nam ar eu Symudedd mewn Mannau Cyhoeddus – Golwg ar y Gyfraith

Rôl y Gwasanaeth Tân ac Achub fel awdurdod gorfodi yw sicrhau bod modd dianc os bydd tân a bod y mesurau diogelwch tân cysylltiedig sydd ar gael i bawb a allai fod mewn adeilad yn rhai digonol a rhesymol, gan ystyried amgylchiadau pob achos penodol.

O dan y ddeddfwriaeth diogelwch tân gyfredol, dylai’r Person Cyfrifol fel y diffinnir gan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 ddarparu asesiad risg diogelwch tân sy’n cynnwys cynllun dianc i bawb sy’n debygol o fod ar y safle, gan gynnwys pobl anabl a phobl â nam ar eu symudedd, a sut y caiff y cynllun hwnnw ei weithredu. Dylai cynllun dianc beidio â dibynnu ar ymyriad y Gwasanaeth Tân ac Achub i wneud iddo weithio.

Yn achos adeiladau amlddeiliadaeth, gallai’r cyfrifoldeb fod ar nifer o Bersonau Cyfrifol ar gyfer pob sefydliad sy’n meddiannu’r adeilad a pherchnogion yr adeilad. Mae’n bwysig iddynt gydweithio a chydlynu cynlluniau dianc gyda’i gilydd. Gallai hyn fod yn broblem benodol mewn adeiladau amlddeiliadaeth pan fo angen i wahanol gynlluniau dianc a strategaethau gael eu cydlynu o un pwynt canolog.

Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud unrhyw newid i’r gofynion hyn: mae’n tanategu’r ddeddfwriaeth diogelwch tân uchod yng Nghymru a Lloegr drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr neu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i’r cyhoedd gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod pawb, gan gynnwys pobl anabl a phobl sydd â nam ar eu symudedd, yn gallu gadael yr adeilad a reolir ganddynt yn ddiogel os bydd tân.

Pan nad yw cyflogwr neu ddarparwr gwasanaethau yn gwneud darpariaeth ar gyfer sicrhau bod pobl anabl yn gallu dianc yn ddiogel o’i safle, gellid ystyried bod hyn yn achos o gamwahaniaethu. Gallai hefyd olygu methiant i gydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth diogelwch tân a nodir uchod.

Mae dyletswydd ychwanegol ar gyrff cyhoeddus, sef Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt fynd ati i hybu cydraddoldeb i bobl anabl ac i wneud mwy fyth i sicrhau nad yw pobl anabl a phobl sydd â nam ar eu symudedd yn wynebu camwahaniaethu drwy beidio â chael cynllun ar gyfer dianc o adeilad yn ddiogel.

Mae’r mathau o safleoedd sy’n gorfod dilyn y cyfreithiau hyn yn cynnwys y canlynol (er nid yn gyfyngedig i’r rhain):

  • banciau;
  • llyfrgelloedd;
  • ysbytai;
  • cartrefi gofal;
  • bwytai;
  • mannau gwaith;
  • adeiladau cyhoeddus;
  • adeiladau llywodraeth;
  • siopau a chanolfannau siopa;
  • ysgolion, colegau a phrifysgolion;
  • gwestai mawr a bach – sef unrhyw strwythur sydd â lloriau uwch.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen