Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Sut i ymateb

Mae eich barn yn bwysig i ni a hoffem
glywed gennych.

Nodwch os gwelwch yn dda ein bod wedi ymestyn dyddiad cau ein ymgynghoriad i hanner nos 30 Medi 2023.

Rydyn ni eisiau gwybod beth yw eich barn am ein hopsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau darpariaeth frys yng Ngogledd Cymru cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau terfynol am ddyfodol ein gwasanaethau.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn ymateb i’r cwestiynau am ein hopsiynau arfaethedig ar gyfer ein gwasanaethau darpariaeth frys yn y dyfodol.

Mae copi PDF o'r ddogfen ymgynghori llawn ar gael yma.

Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen yma.

Mae’r cwestiynau wedi’u nodi yn ein holiadur sydd ar gael yma.

Sylwch fod rhai cwestiynau gorfodol a rhai dewisol yn ein holiadur - ni fyddwch yn gallu symud ymlaen i'r darn nesaf os nad yw'r holl gwestiynau gorfodol wedi'u cwblhau.

Rydym yn ddiolchgar i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam am gynnal ein holiadur yn rhad ac am ddim ar blatfform Eich Llais Wrecsam sy’n ein galluogi i sicrhau bod pawb ar draws Gogledd Cymru yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar wasanaethau tân ac achub, ni waeth pa ardal awdurdod lleol y maent yn byw, yn gweithio neu’n ymweld â hi.

Os nad oes gennych fynediad i’r we, gallwch ein ffonio neu tecstio ni ar 07787 578 386 a gallwn anfon copïau papur o’r wybodaeth ategol a'n holiadur atoch.

Cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng dydd Gwener 21 Gorffennaf a hanner nos dydd Sadwrn 30 Medi 2023.



Gallwch ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol

Twitter: @NorthWalesFire

Facebook: @Northwalesfireservice

Neu chwiliwch am ‘North Wales Fire and Rescue Service’ ar LinkedIn

Mae sawl ffordd wahanol y gallwch chi gymryd rhan a mynegi eich barn wrthym


Gallwch fynd i ddigwyddiad yn bersonol neu gyfarfod rhithiol.

Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, rydyn ni’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu efo’r gymuned i gasglu adborth a chlywed barn pobl. Gallwch ddod o hyd i fanylion yr holl ddigwyddiadau yma.

Os na allwch gael mynediad i’r rhyngrwyd, ffoniwch neu anfonwch neges destun atom i gael manylion y digwyddiadau ar 07787 578 386.

Gallwch ein gwahodd ni i’ch grŵp

Gallwn hefyd ymweld â grwpiau cymorth lleol i gasglu adborth. Os ydych chi’n aelod o grŵp cymunedol ac yr hoffech i ni ddod i siarad â’ch grŵp, cysylltwch â 07787 578 386 neu anfonwch e-bost atom ar:

Adolygiaddarpariaethbrys@tangogleddcymru.llyw.cymru 

 

Ymateb yn ffurfiol i’n hymgynghoriad

I roi gwybod i ni am eich barn, gallwch:

Dychwelwch holiadur papur wedi’i lenwi yn ôl atom yn rhad ac am ddim i:
Freepost, ADOLYGIAD TAN/FIRE REVIEW.

Sicrhewch eich bod yn anfon yr holiadur yn ôl atom erbyn hanner nos Dydd Sadwrn 30 o Fedi, 2023.

Gallwch hefyd lenw'r holiadur ar-lein yma.

Gallwch leisio'ch barn hyd at hanner nos Dydd Sadwrn 30 o Fedi 2023.


Os na allwch gwblhau’r holiadur:

Anfonwch e-bost at: Adolygiaddarpariaethbrys@tangogleddcymru.llyw.cymru neu lythyr at: Freepost ADOLYGIAD TAN/FIRE REVIEW erbyn hanner nos Dydd Sadwrn 30 o Fedi, 2023

Neu ffoniwch / tecstiwch i rannu eich barn ar 07787 578 386.

Mae ein gwefan yn cynnig gwybodaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn darparu bar offer hawdd ei ddefnyddio fel y gallwch ddarllen a deall popeth yn y ffyrdd sy’n gweithio orau i chi. Mae hyn yn cynnwys darllen yn uchel, testun mwy a’r gallu i weld y wybodaeth mewn ystod eang o ieithoedd ychwanegol.

Fformat hawdd ei ddarllen

Mae’r wybodaeth hon hefyd ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen yma.

Gallwch ofyn amdan gopi o'n gwybodaeth hawdd ei ddarllen neu ein holiadur hawdd ei ddarllen drwy anfon e-bost atom yn Adolygiaddarpariaethbrys@tangogleddcymru.llyw.cymru neu ein ffonio / tecstio ar 07787 578 386.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen