Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ardal y Gorllewin (Gwynedd a Môn)

Ardal y Gorllewin (Gwynedd a Môn)

Cyflwyniad gan Reolwr Partneriaethau, Gemma Brook

Mae’r Rheolwr Diogelwch Cymunedol yn gofalu am ardaloedd Gwynedd ac Ynys Môn, ac mae’n gyfrifol am Ddiogelwch Tân Cymunedol a Diogelwch Tân Busnes yn y ddwy sir.  

Mae Gwynedd yn 254,000 hectar, sef 12.26% o dir Cymru, ac mae ganddi fwy na 117,000 o boblogaeth wedi’u rhannu’n denau rhwng y naw prif dref yng Ngwynedd a’i chymunedau gwledig. Ardal arfordirol a mynyddig yw Gwynedd, ac mae’n cynnwys Penrhyn Llŷn a Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae’r ardal yn cynnwys amgylchedd sydd gyda’r harddaf ym Mhrydain ac mae’n gartref i ddau o’r pedwar Safle Treftadaeth y Byd sydd yng Nghymru. Y cyntaf yw Cestyll Caernarfon, Biwmares a Harlech, a dyfarnwyd yr ail yn ddiweddar, sef ‘tirwedd llechi’ gogledd-orllewin Cymru. Mae’r statws yn eu rhoi yn yr un categori â Wal Fawr Tsieina, y Taj Mahal yn India a’r Grand Canyon yn America fel lle sydd â ‘gwerth cyffredinol eithriadol’. Mae’r ardal hefyd yn gartref i fwy nag 11,000 o fyfyrwyr tra maent yn astudio am eu cymwysterau academaidd ym Mhrifysgol Bangor.  

Cyfeirir yn aml at Ynys Môn fel ‘mam Cymru’ ac mae ganddi fwy na 67,000 o boblogaeth gyda mwy na’u hanner yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf. Mae ei thir yn fwy na 200,000 o aceri ac mae’n cynnwys un o’r porthladdoedd prysuraf yn y Deyrnas Unedig. Mae tair prif ardal drefol yn Ynys Môn, sef Caergybi, Amlwch a Llangefni. Mae gweddill y sir yn byw mewn nifer o drefi bach ac ardaloedd gwledig. Mae ffordd gyflym yr A55 yn darparu llwybr rhagorol ar draws yr ynys i Gaergybi, gan gysylltu’r DU ac Iwerddon. Mae mwy nag 8 miliwn o dwristiaid yn ymweld â Gwynedd ac Ynys Môn bob blwyddyn, gyda’u chwarter yn aros mewn gwestai, llety gwely a brecwast a hosteli yn yr ardal.  

Adnoddau 

Mae Gwynedd yn cynnwys dros 240 o aelodau o staff mewn 14 o orsafoedd a 2 swyddfa ddiogelwch sy’n darparu gwasanaethau gweithredol, cymunedol a diogelwch tân busnes. Mae dwy orsaf â chriw dydd, sef ym Mangor a Chaernarfon, ac mae criw ynddynt rhwng 12.00pm a 10pm. Mae staff ar gael yn ôl yn galw ar gyfer y ddwy orsaf hefyd. Mae gorsafoedd Ar-alwad wedi’u lleoli yn Nolgellau, Aberdyfi, Abermaw, Abersoch, Bala, Blaenau Ffestiniog, Harlech, Llanberis, Nefyn, Porthmadog, Pwllheli a Thywyn, ac maent yn darparu gofal gweithredol yn eu cymunedau. 

Mae gan Ynys Môn fwy na 130 o aelodau o staff, sy’n cynnwys staff gweithredol, cymunedol a diogelwch tân busnes. Mae gorsaf criw dydd yng Nghaergybi, ac mae criw yno rhwng 12.00pm a 10pm, gyda system ar gael yn ôl y galw yn ategu hyn y tu allan i’r oriau hyn, ac yn ystod yr oriau hyn. Mae chwe gorsaf ar-alwad, sef yn Amlwch, Biwmares, Benllech, Llangefni, Porthaethwy a Rhosneigr, ac maen nhw hefyd yn darparu gofal gwerthfawr yn eu cymuned. 

Mae’r gorsafoedd hyn yn defnyddio cyfanswm o 17 o beiriannau pwmpio ac 8 peiriant arbennig sy’n darparu amrywiaeth o offer arbenigol ar gyfer delio â llawer o wahanol fathau o ddigwyddiadau, o Wrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd i ddigwyddiadau dŵr. 

Diogelwch Tân Busnes 

Mae diogelwch tân busnes yn cynnwys rheolwr penodol ar gyfer cydymffurfiaeth a thri swyddog cydymffurfiaeth, ac maent wedi’u lleoli yn y swyddfeydd ardal yng Nghaernarfon a Llangefni. Mae’r tîm yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr i holl ardaloedd Gwynedd ac Ynys Môn. 

Diogelwch Tân Cymunedol 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ostwng nifer y marwolaethau a’r anafiadau oherwydd tân, a hynny drwy ddarparu diogelwch tân cymunedol a busnes, yn enwedig drwy roi sylw i bobl ifanc ac oedrannus a’r rhai mwyaf bregus yn yr ardaloedd hyn.

Mae tîm Diogelwch Tân Cymunedol Gwynedd a Môn ar gael i ymweld a darparu cyngor ymarferol am ddiogelwch tân yn rhad ac am ddim, gan gynnwys gosod larymau mwg AM DDIM yn eich cartref. Rydym yn annog yr holl drigolion i sicrhau bod ganddyn nhw larwm mwg gweithredol. 

Partneriaethau 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â phob Awdurdod Lleol, cyrff Cyhoeddus, Preifat ac yn y Sector Gwirfoddol i sicrhau bod ein cymunedau’n ddiogel rhag tân. Rydym yn gwneud hyn drwy rannu ein system atgyfeirio gydag asiantaethau yr ydym yn ymddiried ynddynt er mwyn i ni allu dyrannu’r adnoddau i ddarparu archwiliadau Diogel ac Iach i’r bobl sydd fwyaf agored i niwed. 

Mae gweithio mewn partneriaeth yn agwedd bwysig ar Ddiogelwch Cymunedol, ac rydym yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau gyda’r Heddlu, Cynghorau Gwynedd ac Ynys Môn, Timau Troseddau Ieuenctid (YOT)a’r sector gwirfoddol. Mae’r prosiectau hyn yn amrywio o gynllun y Ffenics a digwyddiadau diogelwch ar y ffyrdd sy’n targedu pobl ifanc ac oedolion ifanc, i ffeiriau cymunedol ar gyfer Diogelwch yn y Cartref, sy’n darparu cyngor am ddiogelwch tân i’r henoed. 
 
Mae gweithio ar y cyd yn hynod effeithiol am gyflawni ein nod o sicrhau bod ein cymunedau’n llefydd mwy diogel i fyw yddynt, i weithio ynddynt ac i ymweld â nhw. 

 

Cliciwch yma yma i weld strategaeth Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Gwynedd
 
Cliciwchyma i weld strategaeth Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Ynys Môn

 

Archwiliadau Diogel ac Iach 
 
I gael archwiliad diogel ac iach, ffoniwch 0800 169 1234 am ddim, anfonwch neges e-bost i cfs@tangogleddcymru.llyw.cymru neu ffoniwch y Swyddfa Diogelwch Cymunedol ar 01286 662 999.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen