Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Diogelwch Tân Busnesau

Gwasanaeth Diogelwch Tân Busnesau

Gwasanaeth Diogelwch Tân Busnesau 

Safonau’r Gwasanaeth Diogelwch Tân i Fusnesau 


Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn awdurdod gorfodi ar gyfer nifer eang o 
safleoedd o dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddion (Diogelwch Tân) 2005 (Y 
Gorchymyn) a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig. Mae gan yr awdurdod gorfodi'r hawl i 
archwilio safleoedd i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â’r Gorchymyn. 
Nod adrannau diogelwch tân i fusnesau'r Gwasanaeth Tân ac Achub yng 
Nghymru yw darparu gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol i gwsmeriaid i gwrdd â 
Chodau’r Rheoleiddwyr. 


Mae Codau’r Rheoleiddwyr yn darparu fframwaith ar gyfer y modd y dylai rheoleiddwyr ymgysylltu gyda’r rhai y maent yn eu rheoleiddio. Byddwn yn cynnal archwiliadau ac arolygon eang ar safleoedd. Mae ein rhaglen archwilio yn seiliedig ar risgiau ac mae hyn yn golygu ein bod yn craffu yn fwy manwl ar safleoedd lle mae llawer mwy o berygl i ddiogelwch y cyhoedd. Nid ydym yn craffu cymaint ar safleoedd risg isel. Byddwn yn archwilio safleoedd, yn enwedig yn dilyn tân neu bryder yn ymwneud â thân. Byddwn yn rhannu canlyniadau’r archwiliad rheoleiddio mewn modd clir, cryno ac ystyrlon. 
Rydym wedi ymrwymo i degwch a rheoleiddiad cadarn ynghyd â’r egwyddor 
sylfaenol o sicrhau cydymffurfiaeth drwy gymesuredd a chamau gorfodi wedi eu 
targedu. 


Beth y gallwch chi ei ddisgwyl gennym ni: 


Ein rôl fel rheoleiddiwr diogelwch tân yw gweithio gyda phobl a busnesau i’w 
helpu i wneud y peth iawn o ran diogelwch y cyhoedd yn y safleoedd hynny y 
maent yn gyfrifol amdanynt. Os oes pryder ynglŷn â diogelwch y cyhoedd mewn 
safleoedd sydd yn ddarostyngedig i’r Gorchymyn fe allwn ddefnyddio ein pwerau 
gorfodi a thrwy wneud hyn byddwn yn ymddwyn yn gymesur. 
Bydd personél yr adrannau Diogelwch Tân i Fusnesau yn gweithio gyda phobl, 
busnesau ac eraill i ddarparu cyngor, gwybodaeth a chyfarwyddyd i’w helpu i 
reoli’r risgiau tân ar eu safle.

 Ein nod yw: 


• Darparu’r wybodaeth gywir – Rydym am roi’r wybodaeth gywir i chi mewn 
ffordd a fydd yn hawdd i’w ddeall ac a fydd yn eich helpu i gydymffurfio â’r 
Gorchymyn. Rydym am i’n cyfarwyddyd fod yn glir a hygyrch. 


• Gweithio’n broffesiynol - Fe fydd ein staff yn ymddwyn yn broffesiynol bob 
amser a bydd ganddynt y sigliau a’r hyfforddiant cywir i wneud eu gwaith 
yn dda. Pan fyddwch yn cwrdd â staff yr adrannau diogelwch tân i 
fusnesau byddwch yn adnabod eu gwisg ac bydd pob un yn cario cerdyn 
adnabod. 


• Meddu ar agwedd gadarnhaol – Byddwn yn gwrando ar eich syniadau a lle 
bo hynny’n bosib, yn ôl y gyfraith, byddwn yn addasu’r modd y byddwn yn 
ymdrin â chi i gwrdd â’ch anghenion o ran cyflawni eich rhwymedigaeth i 
gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Byddwn yn eich helpu hyd y bo 
hynny’n ymarferol. 


• Sicrhau’r canlyniadau cywir - Byddwn yn gweithio’n effeithlon er mwyn 
sicrhau’r canlyniadau cywir. Byddwn yn siarad gyda chwsmeriaid i’n helpu i 
ddatblygu ein cyngor a’n cyfarwyddyd. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall eich 
anghenion fel y gallwn wella ein gwasanaethau. 


Cysylltu gyda ni: 


Rydym am ei gwneud hi’n hawdd i chi gysylltu gyda ni. Gallwch wneud hyn mewn 
sawl ffordd – e-bost, anfon llythyr, ffonio, mynd ar-lein neu drwy’r cyfryngau 
cymdeithasol – a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. 


Rydym yn awyddus i gael adborth gennych chi


Rydym am glywed eich barn chi fel y gallwn ddeall sut i wella ein gwasanaethau 
a’r modd yr ydych yn dymuno gweithio gyda ni. Byddwn yn gwrando ar yr hyn yr 
ydych yn ei ddweud wrthym ni er mwyn i ni ddeall eich anghenion a’ch 
problemau. Byddwn yn adolygu a gweithredu ar eich adborth a’ch awgrymiadau 
yn rheolaidd lle bo hynny’n bosibl. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall eich barn chi, y 
modd y gallwn wella a’r modd y gallwn lwyddo’r tro cyntaf. 


Byddwn yn monitro ein perfformiad yn erbyn y safonau a’r targedau yr ydym ni 
wedi eu gosod fel y gallwn gadw llygaid ar y modd yr ydym ni’n perfformio. 
Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ar ein gwefannau:

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen