Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymgyrch Atal

Mae Ymgyrch Atal yn fenter diogelwch ar y ffyrdd ledled Cymru a gyflwynir mewn partneriaeth â GanBwyll, Heddluoedd Cymru, Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru.

Roadside speed checks

Mae'r rhaglen yn defnyddio addysg a chysylltiad ar ochr y ffordd i helpu i fynd i'r afael â'r 5 Peth Angheuol – y pum prif ffactor sy'n cyfrannu at farwolaeth ac anafiadau difrifol ar ffyrdd Cymru:

  • Gyrru'n ddiofal neu'n beryglus

  • Gyrru dan dylanwad alcohol neu gyffuriau

  • Peidio â gwisgo gwregus

  • Tynnu sylw'r gyrrwr

  • Goryrru

Fel rhan o Ymgyrch Atal, gall gyrwyr a nodwyd gan yr Heddlu yn sgil troseddau fel goryrru neu beidio â gwisgo gwregys gael cynnig ymyrraeth addysgol byr wedi’i gyflwyno gan staff diogelwch ffyrdd y Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae'r sgyrsiau hyn yn helpu defnyddwyr y ffordd i ddeall canlyniadau ymddygiad peryglus ac annog dewisiadau mwy diogel y tu ôl i'r llyw.

Mae'r fenter yn canolbwyntio ar wella diogelwch ar ffyrdd 20mya, 30mya a 40mya, yn ogystal â hyrwyddo’r defnydd o wregysau a defnyddio offer diogelwch i blant yn gywir.

Trwy weithio'n agos gyda'n partneriaid, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn helpu i gyflwyno negeseuon diogelwch ffyrdd cyson ledled Cymru, gan gefnogi ein nod cyffredin o leihau gwrthdrawiadau, atal anafiadau ac achub bywydau.

Mae rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Atal ar gael ar wefan GanBwyll.

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen