Panel Gweithredol
Panel Gweithredol
Mae gan y Panel Gweithredol swyddogaeth eithaf amrywiol gan ymdrin â phynciau megis penodi uwch swyddogion, ystyried materion yn ymwneud â disgyblaeth a phensiynau, ac ymdrin â materion polisi a chyfansoddiadol fel y cyfyd yr angen.
Mae fel arfer yn ymdrin ag ymatebion i bapurau ymgynghorol a datblygiadau eraill o ran polisi, ac yn gwneud argymhellion i'r Awdurdod Tân ac Achub ar ei bolisau allweddol, gan gynnwys y Cynllun Gwella a Lles. Mae'r Panel, fel arfer, yn ymdrin â phenodi is-bwyllgor arbennig at y diben.
Gosodwyd Cylch Gwaith y Panel yn 2001 ac fe'i hadolygir fel y bo'r angen. Mae'n cynnwys y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd a dau aelod o bob awdurdod cyfansoddol. Y Cadeirydd neu, yn ei absenoldeb, yr is-Gadeirydd, sy'n ei gadeirio.
Mae'n cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, rhwng cyfarfodydd yr Awdurdod Tân ac Achub, er y gellir cynnal cyfarfodydd ychwanegol yn dibynnu ar y gwaith, ac yn benodol, pa faterion personél sydd angen eu trafod.
Cylch Gwaith y Panel Gweithredol
Cyfarfodydd Panel Gweithredol - 2019 ymlaen
Aelodau'r Panel Gweithredol
Cynghorydd Dylan Rees (Cadeirydd)
Cynghorydd Mark Young (Dirprwy Gadeirydd)
Cynghorydd Carol Beard
Cynghorydd Alan Hughes
Cynghorydd Chris Hughes
Cynghorydd Charlie McCoubrey
Cynghorydd Rondo Roberts
Cynghorydd Paul Rogers
Cynghorydd Gareth Sandilands
Cynghorydd Dale Selvester
Gwag

