Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ffrindiau Peryg Bywyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ynghyd â’n partneriaid diogelwch y ffyrdd – Taith, Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Beicio Diogel yn ymwneud ag addysgu gyrwyr ifanc a phobl ifanc sydd ar fin dysgu gyrru, rhwng 16 a 24 oed, am ganlyniadau gyrru gwael neu amhriodol.

Mae gyrwyr ifanc yn cyfrif am 10% o’r boblogaeth gyrru, fodd bynnag mae 25% o’r holl yrwyr sy’n cael eu lladd mewn Gwrthdrawiadau Traffig y Ffordd yn 17-25 oed a gwrthdrawiadau traffig y ffordd yw’r achos marwolaeth mwyaf ymysg y grŵp hwn.

Ein nod yw addysgu a hysbysu gyrwyr ifanc a theithwyr drwy ymgysylltu â nhw mewn ffyrdd gwahanol:-Mae’r sioe diogelwch y ffyrdd ‘Effeithiau Marwol’, a gyflwynir i ysgolion a cholegau ledled Gogledd Cymru, ar gael i fyfyrwyr sy’n gyrru neu sydd ar fin dechrau gyrru. Rydym hefyd yn cynorthwyo gyda Pass Plus Cymru sy’n helpu gyrwyr newydd i gael mwy o brodiad a mwy o sgiliau.  

Ein nod yw ymweld â bob Coleg ledled Gogledd Cymru er mwyn cyflwyno’r cwrs hwn i gynifer o fyfyrwyr â phosibl er mwyn sicrhau bod y neges yn cael ei lledaenu.

Mae’r cyflwyniad yn un pwerus, sydd weithiai’n fanwl iawn ac sy’n tynnu sylw at ganlyniadau erchyll gwrthdrawiadau traffig y ffordd i yrwyr ifanc a theithwyr. Yn anffodus, mae’r rhan fwyaf o ferched sy’n marw mewn gwrthdrawiadau yn deithwyr yn hytrach na gyrwyr.     

Yn ychwanegol at hynny, rydym yn cynnal gweithgareddau Allgymorth lle byddwn yn ymgysylltu â’n gyrwyr ifanc drwy Subaru Impreza Sti, ochr yn ochr â Swyddogion Plismona Heddlu Gogledd Cymru, er mwyn ‘torri’r rhwystrau’ ac annog pobl i yrru’n gyfrifol.

Y “5 Angheuol” yw’r ffactorau sy’n cyfrannu mwyaf at wrthdrawiadau traffig y ffordd sy’n achosi marwolaethau ac anafiadau difrifol, sef:  

  • Gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau
  • Peidio gwisgo gwregys diogelwch
  • Defnyddio ffôn symudol
  • Goryrru
  • Gyrru’n beryglus

Mae cyfuniad o’r rhain wrth yrru yn cynyddu’r siawns o yrrwr neu eu teithwyr yn dioddef gwrthdrawiad traffig y ffordd, yn enwedig os na wisgir gwregys diogelwch, rydych yn 25 gwaith yn fwy tebygol o gael eich taflu o gerbyd.

Mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau hefyd ar gynnydd ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn dangos y Profion a ddefnyddir ar yrwyr sy’n cael eu hamau o ddefnyddio cyffuriau, yn ystod y cyflwyniad a roddir i’r bobl ifanc.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen