Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch Coginio

Diogelwch Coginio

Dros y flwyddyn ddiwethaf, dechreuodd y rhan fwyaf o danau eiddo yr aeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru atynt yn y gegin. Roedd 99% o'r tanau hyn yn ddamweiniol a gellid bod wedi'u hatal.

Helpwch gadw'ch hun a'ch anwyliaid yn ddiogel yn y gegin trwy ddilyn rhai o'n cynghorion diogelwch tân wrth goginio isod.

Os bydd tân yn digwydd yn y gegin – cofiwch, ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999 ar unwaith.

 

 

Peidiwch â gadael bwyd yn coginio heb oruchwyliaeth

Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb oruchwyliaeth – dim ond ychydig eiliadau y mae'n ei gymryd i dân ddechrau.

  • Osgowch bethau cyffredin sy’n tynnu sylw wrth goginio, fel defnyddio'ch ffôn, diddanu gwesteion neu amldasgio gyda thasgau eraill.
  • Os oes angen i chi adael yr ystafell, hyd yn oed am gyfnod byr, tynnwch eich bwyd oddi ar y gwres. Mae'n well bod yn ddiogel nag yn edifar.
  • Rhowch dolenni sosban ar ongl fel nad ydyn nhw'n sticio allan o'r hob neu dros fflam noeth.
  • Peidiwch byth â gadael plant ar eu pennau eu hunain yn y gegin a chadwch fatsis, tanwyr a dolenni sosbenni o'u cyrraedd. Byddem hefyd yn argymell gosod clicied diogelwch ar ddrws y popty.
  • Gwnewch yn siŵr bob amser bod eich hob neu'ch popty wedi'i ddiffodd yn llawn pan fyddwch wedi gorffen coginio.

 

Cadwch eich popty a'ch hob yn lân

Mae popty glân yn bopty diogel!

  • Glanhewch eich popty, hob a pheiriannau eraill yn rheolaidd gan y gall braster, briwsion neu saim fynd ar dân yn hawdd - mae hyn yn berthnasol i'ch gril, tostiwr, popty aer ac unrhyw declynnau cegin eraill rydych chi'n eu defnyddio hefyd.

 

Cadwch ddeunyddiau fflamadwy oddi wrth y popty

Mae cegin anhrefnus yn gegin beryglus!

  • Gwnewch yn siŵr bob amser bod deunyddiau fflamadwy, fel llieiniau sychu llestri, clytiau a gwifrau trydanol, yn cael eu cadw oddi wrth eich popty.
  • Peidiwch â gwisgo dillad llac wrth goginio, gan y gallan nhw fynd ar dân yn hawdd.
  • Gall gormod o annibendod o amgylch yr hob hefyd fod yn risg tân. Cliriwch ddeunydd pecynnu bwyd, llyfrau coginio neu fyrddau torri gan eu bod yn fflamadwy a gallan nhw rwystro llif aer o amgylch eich popty.

 

Defnyddiwch eich popty aer yn gyfrifol

Mae popty aer yn ychwanegiad poblogaidd i geginau modern, ond mae angen eu defnyddio'n ddiogel, yn union fel unrhyw offer arall.

  • Defnyddiwch eich popty aer ar arwyneb sefydlog, sy'n gwrthsefyll gwres oddi wrth ddeunyddiau fflamadwy, fel llenni neu dywelion papur bob amser, a pheidiwch byth â'i osod yn rhy agos at eich hob. Gall gwres gweddilliol o'r hob niweidio'r popty aer, achosi iddo orboethi neu hyd yn oed ei droi yn ôl ymlaen.
  • Peidiwch â gorlenwi'ch basged wrth goginio gan fod hyn yn blocio'r llif aer a gall achosi gorboethi.
  • Glanhewch ddrôr y fasged yn rheolaidd er mwyn atal saim rhag cronni, sy’n gallu mynd ar dân.
  • Defnyddiwch yr olewau, y tymheredd a'r amseroedd coginio a argymhellir gan y gwneuthurwr bob amser.
  • Peidiwch byth â gadael popty aer heb oruchwyliaeth tra’i fod yn cael ei ddefnyddio a datgysylltwch bob amser pan fyddwch chi wedi gorffen.

 

Byddwch yn ofalus wrth ffrio bwyd mewn saim dwfn

Er bod poptai aer yn ffasiynol iawn yng nghartrefi’r wlad ar hyn o bryd, mae yna lawer o bobl o hyd sy'n dal i fwynhau ffrio bwydydd yn ddwfn gartref.

  • Sychwch y bwyd cyn ei roi mewn olew poeth, er mwyn atal yr olew rhag eich sblasio a'ch llosgi.
  • Os ydych chi'n ffrio bwyd mewn saim dwfn yn rheolaidd, ystyriwch brynu ffrïwr saim dwfn trydan. Mae ganddyn nhw thermostat wedi'i gosod fel na allan nhw orboethi ac maen nhw’n fwy diogel i'w defnyddio.
  • Os nad oes gennych chi ffrïwr saim dwfn trydan a’ch bod yn defnyddio sosban gyffredin, peidiwch byth â'i llenwi mwy na thraean yn llawn.
  • Os yw'r olew yn dechrau mygu, mae'n rhy boeth. Trowch y gwres i ffwrdd a'i adael i oeri.
  • Os yw'r olew’n mynd ar dân, diffoddwch yr hob ond dim ond os yw'n ddiogel i chi wneud hynny. Peidiwch byth â thaflu dŵr ar olew sydd ar dân; bydd hyn ond yn gwneud i'r tân ledaenu'n gyflymach.

 

Peidiwch ag yfed a choginio

Mae llawer ohonom yn mwynhau diod o bryd i'w gilydd ond nid yw yfed a choginio yn gyfuniad da.

  • Gall alcohol effeithio ar eich barn, eich cydlyniad ac ar eich amser ymateb, gan ei gwneud hi'n fwy tebygol y byddwch chi'n anghofio am fwyd sydd ar y stôf, yn defnyddio peiriannau’n anniogel, neu'n ymateb yn rhy araf i fwg neu fflamau.
  • Os ydych chi'n bwriadu cael diod, archebwch decawê neu paratowch fyrbryd cyn i chi ddechrau yfed.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen