Diogelwch Dŵr
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pawb i fwynhau amser yn y dŵr, ar y dŵr ac o gwmpas y dŵr yn ddiogel - boed gartref neu ar wyliau. Yn anffodus, mae bywydau'n cael eu colli bob blwyddyn mewn dyfroedd arfordirol a mewndirol, ond gallai llawer o'r marwolaethau hyn fod wedi cael eu hosgoi.
Peryglon dŵr
- Mae'n oer iawn a gallai achosi sioc dŵr oer neu hypothermia.
- Efallai y bydd ceryntau cudd a allai ei gwneud hi'n anodd nofio yn ôl i'r lan.
- Gall fod yn anodd dod allan e.e. glannau serth llithrig.
- Gall fod yn ddyfnach nag y mae'n edrych a gall fod yn anodd dyfalu dyfnder y dŵr.
- Yn y dŵr gall fod sbwriel neu falurion yn cuddio e.e. trolïau siopa, gwydr wedi torri.
- Os ydych chi'n nofio mewn afonydd, chwareli neu gronfeydd dŵr ni fydd achubwyr bywyd o gwmpas i helpu.
- Gall y dŵr fod wedi’i lygru ac achosi salwch.
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Adnabod – sylwch ar y peryglon
Cyngor – parchwch arwyddion a chyngor diogelwch
Ffrind – arhoswch yn agos at ffrind neu aelod o'r teulu
Argyfwng – galwch am help a ffonio 999 neu 112
Pethau i'w cofio:
Parchwch y dŵr. Mae'n gryfach nag ydych chi'n meddwl
Mae'r rhan fwyaf o foddi damweiniol yn y DU yn digwydd mewn dyfrffyrdd mewndirol fel afonydd, camlesi, llynnoedd, cronfeydd dŵr, a chwareli. Gall hyd yn oed dŵr tawel fod â cheryntau cryf, tymheredd oer, a pheryglon cudd.
Mae mwy o wybodaeth ac adnoddau ar gael fel rhan o ymgyrch Parchu'r Dŵr gan y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol (NWSF). Crëwyd yr ymgyrch genedlaethol hon gan sefydliadau sy’n aelodau o’r fforwm gan gynnwys Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân. Gellir defnyddio adnoddau a gwybodaeth trwy gydol y flwyddyn. Gallwch ddarganfod mwy am Barchu'r Dŵr yma.
Gall dŵr oer ladd
Gall sioc dŵr oer effeithio ar eich gallu i nofio. Hyd yn oed yn yr haf, gall y dŵr edrych yn ddeniadol ond gall fod yn oer iawn o hyd.
Hyd yn oed os ydych chi'n nofiwr cryf, gall neidio i'r dŵr i oeri arwain at sioc dŵr oer, a all arwain at foddi. Ewch i mewn i’r dŵr yn araf i addasu yn hytrach na neidio i mewn.
Gallwch ddysgu mwy am sioc dŵr oer ar wefan Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân.
Arhoswch yn ddiogel ger dŵr agored
Nid oedd gan y rhan fwyaf o bobl sy’n boddi unrhyw fwriad i fynd i mewn i'r dŵr, fel pobl yn cerdded ac yn llithro, baglu a chwympo.
Gofalwch beidio â llithro wrth fynd am dro neu redeg ar lan y dŵr. Gall glannau afonydd a llwybrau arfordirol fod yn ansefydlog ar ôl tywydd sych neu wlyb iawn.
Cadwch at y llwybrau iawn a chadwch yn glir o'r ymyl. Os oes gennych amheuon, dilynwch lwybr gwahanol.
Peryglon cudd
Cadwch chi eich hun a'ch ffrindiau’n ddiogel. Gall neidio i mewn i ddŵr fod yn beryglus.
Gall dyfnder y dŵr newid a gallai malurion fod wedi’u cuddio dan y dŵr. Bob blwyddyn mae angen achub pobl neu mae pobl yn dioddef anafiadau difrifol, neu hyd yn oed yn marw, oherwydd eu bod yn neidio i mewn i ddŵr heb wybod beth i’w ddisgwyl.
Gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng
Cofiwch 'Ffonio. Dweud. Taflu'.
- Ffoniwch 999 am help os oes rhywun mewn trafferth yn y dŵr. Peidiwch byth â mynd i mewn i'r dŵr i geisio eu hachub. Gofynnwch am Wylwyr y Glannau os ydych ar yr arfordir.
- Dywedwch wrthynt am arnofio ar eu cefn.
- Taflwch rywbeth sy'n arnofio iddyn nhw. Gall hyn fod yn offer achub bywydau fel rhaff daflu, ond gall unrhyw beth sy'n arnofio helpu i achub bywyd.
Arnofio i Fyw
Os ydych chi'n syrthio i mewn i ddŵr yn annisgwyl, cofiwch 'Arnofio i Fyw':
- Pwyswch eich pen yn ôl, gyda’ch clustiau o dan y dŵr
- Ymlaciwch, ac anadlu yn ôl yr arfer
- Symudwch eich dwylo i'ch helpu i arnofio
- Lledaenwch eich breichiau a'ch coesau
- Pan fydd eich anadl dan reolaeth, galwch am help neu nofiwch i fan diogel
Gallai achub eich bywyd.
Dydy alcohol a dŵr ddim yn cyd-fynd
Bob blwyddyn mae nifer o achosion o foddi’n ymwneud ag alcohol a/neu gyffuriau. Gall dewis mynd i mewn i'r dŵr tra byddwch dan ddylanwad neu gerdded llwybr wrth ymyl dŵr ar ôl noson allan arwain at foddi.
Os ydych chi wedi bod yn mwynhau diod gyda ffrindiau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n aros gyda'ch gilydd. Peidiwch â gadael i ffrind gerdded adref a dewiswch lwybr diogel ymhell oddi wrth ddŵr. Peidiwch â gadael ffrind ar eu pen eu hunain, rhag ofn iddynt foddi.