Cadw'n ddiogel yn ystod yr Haf
Cadw'n ddiogel yn ystod yr Haf
Rydym am i bawb gael haf pleserus - ond yn un diogel hefyd.
Daw'r haf a nifer o beryglon yn ei sgil os nad ydych yn dilyn y cyngor tân a diogelwch ar y ffyrdd priodol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.
Gallai ychydig o ragofalon ac ychydig o ofal ychwanegol eich cadw chi a'ch teulu'n ddiogel a helpu i atal y rhan fwyaf o beryglon tân a pheryglon ar y ffyrdd.
Dyma ein prif awgrymiadau ar gyfer diogelwch yn yr haf:
Parchu cefn gwlad
Gallai sigarét wedi ei thaflu o ffenestr car, barbeciw sy'n rhoi gwrych ar dân, neu goelcerth a adewir heb neb yn cadw llygad arni gychwyn tân a fydd yn dinistrio erwau o gefn gwlad, cnydau a bywyd gwyllt.
Pan fyddwch chi allan yng nghefn gwlad, defnyddiwch y biniau sy'n cael eu darparu, gan sicrhau bod barbeciws a sigaréts wedi cael eu diffodd yn llwyr cyn eu taflu. Cofiwch hefyd mai dim ond pan fydd yr arwyddion yn dweud bod caniatâd ichi ddefnyddio barbeciw y dylech wneud hynny, a phan fyddwch chi'n barod i adael gwnewch yn siŵr eich bod yn clirio'ch holl sbwriel, gan gynnwys yr holl boteli, gwydrau, ac unrhyw wydr wedi torri er mwyn eu hatal rhag dal yr haul a chynnau tân.
Deall Peryglon Dŵr
Ar ddiwrnod poeth, efallai y bydd llawer ohonom yn ymdrochi’n sydyn mewn dŵr i'n helpu i oeri, ond mae yna nifer o risgiau sy'n gysylltiedig â mynd i mewn i'r dŵr.
Dim ots pa mor llonydd y mae’r dŵr yn edrych, gall ceryntau cryf a pheryglon cudd fod ynddo, a gall fod yn oer. Cofiwch bob amser fynd i mewn i'r dŵr yn araf, yn hytrach na neidio i mewn, i’ch helpu eich hun i ddod i arfer â'r tymheredd ac osgoi sioc dŵr oer - hyd yn oed yn yr haf, gall y dŵr fod yn oer iawn.
Os byddwch mewn trafferth yn y dŵr, y cyngor gorau i’w gofio yw 'Arnofio i Fyw’.
- Tilt your head back with ears submerged.
- Relax, breathe normally.
- Move your hands to help you float.
- Spread your arms and legs out.
- Once your breathing is controlled, call for help or swim to safety.
Gallai achub eich bywyd.
Peidiwch ag yfed a choginio
Bydd llawer o bobl hefyd yn mwynhau cael diod mewn amrywiol lefydd yn ogystal ag adref yn yr ardd yn ystod y nosweithiau goleuach – a byddwn yn eich annog i osgoi coginio ar ôl yfed, yn enwedig os ydych chi'n teimlo'n llwglyd ar ôl dychwelyd adref ar ôl noson allan!
Y ffordd orau o ddelio â’r awydd am fwyd a chadw’n ddiogel yw cael tecawê neu baratoi brechdan cyn i chi fynd allan.
Byddwch yn gyfrifol wrth gael barbeciw
Gall cael barbeciw fod yn hyfryd ond mae angen i chi fod yn ddiogel wrth goginio yn yr awyr agored – peidiwch byth â gadael eich barbeciw heb rywun yn cadw llygad arno, cadwch y barbeciw ymhell oddi wrth blant, anifeiliaid anwes a deunyddiau fflamadwy, peidiwch ag yfed a choginio a gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwaredu'r lludw yn ddiogel.
Gall dilyn yr awgrymiadau diogelwch syml yma helpu i’ch cadw chi, eich teuluoedd a'ch cymunedau yn ddiogel dros yr haf.




