Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lleihau llosgi bwriadol

Lleihau llosgi bwriadol

Ein nod yw lleihau tanau bwriadol fel bod pobl, cymunedau, busnesau, yr amgylchedd a threftadaeth leol yn cael eu ddiogelu.

Atal tanau bwriadol

Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i adeiladu cymunedau cryfach, mwy diogel a mwy gwydn trwy:

·                     Darparu gwybodaeth, arweiniad a chyngor diogelwch tân

·                     Darparu addysg i blant a phobl ifanc

·                     Ymyrryd yn gynnar pan fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dechrau

·                     Cefnogi gweithgareddau dargyfeirio i atal troseddwyr posibl

·                     Cynnig rhaglenni atal wedi'u targedu i'r rhai sydd mewn perygl o ymddygiad tân

 

Ymateb i danau bwriadol

Mae achosion o dân bwriadol yn cael eu hadolygu'n ddyddiol gan ddefnyddio gwybodaeth o systemau gorchymyn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod yr ymateb cywir yn cael ei ddarpraru ar yr adeg iawn.

Rydym yn gweithio gydag asiantaethau partner i gefnogi ymdrechion adnabod a chanfod, gan helpu i sicrhau canlyniadau cyfiawnder priodol neu lwybrau ymyrraeth.

 

Rhifau cyswllt

Ystafell Reoli'r Gwasanaeth Tân ac Achub- I roi gwybod os ydych am losgi dan reolaeth 01931 522 006

Taclo'r Taclau (Crimestoppers)- I roi gwybodaeth yn ddienw 0800 555 111

Eiddo gwag neu cerbydau sydd wedi cael eu gadael- I roi gwybod am eiddo gwag, cerbydau sydd wed i cael eu gadael neu problemau amgylcheddol cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol.

Tipio anghyfreithlon- Os hoffech roi gwybod am dipio anghyfreithlon, cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru ar Rhadffôn 0800 807 060.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen