Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cynnal Digwyddiadau Diogelwch Dŵr ledled Gogledd Cymru i nodi Diwrnod Cenedlaethol Atal Boddi 2024

Postiwyd

Cynhaliwyd tri digwyddiad ledled Gogledd Cymru yr wythnos hon i nodi Diwrnod Cenedlaethol Atal Boddi.

Nod y digwyddiadau hyn oedd hyrwyddo'r neges diogelwch dŵr 'Arnofio i Fyw’, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o sut y gall pobl eu helpu eu hunain os byddant yn cael trafferth yn y dŵr, a gweithio gyda phartneriaid eraill i addysgu am beryglon dŵr agored, gan sicrhau bod pobl mewn sefyllfa gywir i fwynhau'r dŵr yn ddiogel.

Staff yn Bala yn hyrwyddo Diwrnod Atal Boddi.

Cynhaliwyd y digwyddiadau ar yr un pryd ar 25 Gorffennaf, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal digwyddiadau yn Llyn Tegid yn y Bala a Llyn Padarn yn Llanberis, tra bod Heddlu Gogledd Cymru wedi cynnal digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Plas Madoc yn Wrecsam.

Staff yn Llanberis yn hyrwyddo Diwrnod Atal Boddi ochr yn ochr â Gwylwyr y Glannau Achub Clogwyni Penmon, Gwylwyr y Glannau Achub Mwd Bangor, Plas Menai, RYA Cymru a Canŵ Cymru.

Roedd pob un o’r digwyddiadau yn cynnwys cwch a chriw Achub Dŵr a chafwyd arddangosiadau o sut i ddefnyddio llinell daflu a pherfformio CPR. Cafwyd arddangosiadau hefyd o rai o'r offer achub bywyd a'r galluoedd achub a ddefnyddir mewn digwyddiadau boddi.

Mynychodd staff yn Wrecsam ddigwyddiad Diwrnod Atal Boddi a gynhaliwyd gan Heddlu Gogledd Cymru.

Yn ôl Paul Kay, Pennaeth Atal Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rwy'n falch iawn bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gallu hyrwyddo diogelwch dŵr drwy gyfrwng y ddau ddigwyddiad hyn y bu inni eu trefnu yn y Bala a Llanberis. Hoffwn ddiolch i'n Rheolwyr Gwylfa am eu gwaith caled yn trefnu'r digwyddiadau pwysig hyn i helpu i godi ymwybyddiaeth o dechnegau atal boddi holl bwysig a allai fod yn hanfodol i helpu i achub bywyd rhywun mewn argyfwng.

"Hoffwn ddiolch hefyd i Heddlu Gogledd Cymru am ein gwahodd i fod yn rhan o'u digwyddiad diogelwch dŵr yn Wrecsam, gan ein galluogi i helpu i ledaenu'r neges diogelwch dŵr 'Arnofio i Fyw' yn ehangach.

"Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod 236,000 o fywydau yn cael eu colli o ganlyniad i foddi bob blwyddyn, ac yng Nghymru cafwyd 253 o farwolaethau'n gysylltiedig â dŵr yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Rwy'n gobeithio bod y rhai a ymunodd â ni yn y digwyddiadau hyn wedi dysgu rhywfaint o gyngor hanfodol er mwyn achub bywydau.

“Cofiwch, os cewch drafferth mewn dŵr yn annisgwyl, bydd eich greddf yn dweud wrthych nofio'n egnïol.  Ond gall sioc dŵr oer achosi i chi anadlu’n afreolus, a gallech felly anadlu dŵr i mewn, a boddi. Yn hytrach, cofiwch ‘Arnofio i Fyw’.

"Y ffordd orau i arnofio yw gorffwys eich pen yn ôl gyda'ch clustiau dan y dŵr. Ceisiwch ymlacio ac anadlu yn ôl eich arfer. Gallwch symud rhywfaint ar eich dwylo i'ch helpu i aros uwchlaw’r dŵr os oes angen. Lledaenwch eich breichiau a'ch coesau i’ch gwneud chi’n fwy sefydlog – a pheidiwch â phoeni os yw eich coesau’n suddo, achos rydyn ni i gyd yn arnofio’n wahanol. Pan fyddwch wedi cael rheolaeth ar eich anadl, galwch am gymorth neu nofiwch i rywle diogel.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen