Archwiliadau Diogel ac Iach
Mae Archwiliad Diogel ac Iach yn wasanaeth am ddim sy’n cael ei ddarparu gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn cynnig gwybodaeth a chyngor ar ddiogelwch tân. Bydd ein staff yn cynnal asesiad ac yn cynnig cyngor ac ymyriadau wedi'u teilwra i helpu i leihau'r risg o dân yn eich eiddo.
Ydyn ni'n cynnig Archwiliad Diogel ac Iach i bawb?
Ni fydd pawb angen Archwiliad Diogel ac Iach wyneb yn wyneb. Rydym yn asesu pob atgyfeiriad i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ein hamser ar y bobl hynny sydd fwyaf mewn perygl o dân. Bydd ymweliad wyneb yn wyneb yn cael ei gynnig i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o dân. Os ystyrir eich bod yn risg isel, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i gynnig cyngor diogelwch tân.
Llenwch y ffurflen gais ar-lein neu ffoniwch ni ar 0800 169 1234 neu tectsiwch ar 0750 730 3678
- Yn ystod archwiliad diogel ac iach wyneb yn wyneb yn eich eiddo, byddwn yn:
- Asesu diogelwch tân ym mhob ystafell yn eich eiddo.
- Adnabod a gwneud i chi fod yn ymwybodol o'r risgiau tân posibl yn eich cartref.
- Gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth i'w wneud er mwyn lleihau neu atal y risgiau hyn.
- Trafodwch drefn gyda'r nos a fydd yn helpu i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel yn ystod y nos.
- Trafod cynllun dianc.
- Sicrhau fod gennych larwm mwg sy’n gweithio, ar bob llawr o'ch eiddo a gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i'w brofi a'i gynnal.
- Asesu'r angen am ymyriadau di-dâl ychwanegol i leihau'r risg o dân yn eich cartref.
- Eich cyfeirio chi (gyda'ch caniatâd) at asiantaethau a allai gynnig cymorth pellach i'ch cadw'n ddiogel ac yn iach.