Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rydym yn chwilio am aelodau annibynnol ar gyfer Pwyllgorau Safonau Cyngor Sir y Fflint ac Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Ydych chi'n gwerthfawrogi safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ac eisiau cefnogi eich cymuned leol a chynnal democratiaeth leol? 
 
Mae Cyngor Sir y Fflint ac Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn chwilio am hyd at dri Aelod Annibynnol i wasanaethu ar eu Pwyllgorau Safonau, gan hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel. 
 
Dylai ymgeiswyr ddangos uniondeb, didueddrwydd, gwrthrychedd a sgiliau gwrando a gwaith tîm da, gyda'r gallu i ystyried tystiolaeth yn deg a pharchu amrywiaeth. Rhaid i ymgeiswyr beidio â chymryd rhan weithredol mewn gwleidyddiaeth leol neu genedlaethol. 
 
Tâl: £105 ar gyfer cyfarfodydd hyd at bedair awr a £210 ar gyfer cyfarfodydd dros bedair awr, ynghyd â chostau teithio a chynhaliaeth cymwys. 
 
I ddarganfod mwy ac i wneud cais ewch i wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru neu gwefan
Cyngor Sir Sir Fflint.  
 
Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â'r Tîm Recriwtio yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 neu drwy e-bost. 
 
Dyddiad cau: 12 hanner dydd, 23 Tachwedd 2026 
Cyfweliadau: Disgwylir 10 neu 11 Rhagfyr 2026

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen