Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Yn dilyn haf na fydd Cymru'n ei anghofio, anogir tirfeddianwyr i Losgi i Amddiffyn

Postiwyd

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn galw ar ffermwyr, tirfeddianwyr a chymunedau gwledig ledled Cymru i chwarae eu rhan wrth leihau’r risg o danau gwyllt yn y dyfodol, wrth iddo lansio ei ymgyrch #LlosgiIAmddiffyn flynyddol. 

Daw’r lansiad yn dilyn un o’r tymhorau tanau gwyllt mwyaf y mae Cymru wedi’i weld. Haf 2026 oedd yr haf poethaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru, ac roedd yn cynnwys y mis Gorffennaf sychaf a gofnodwyd erioed, gan greu amodau delfrydol i danau gwyllt ledaenu’n gyflym ar draws cefn gwlad. Yn ystod mis Gorffennaf ac Awst, cyhoeddodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru bedwar o danau gwyllt mawr ar Fynydd Conwy a Mynydd Llanwynno, ac yng Nghronfa Ddŵr Llangynidr a Rhandir-mwyn. 

Mae graddfa, hyd a dwyster y digwyddiadau hyn yn rhoi pwysau digynsail nid yn unig ar y gwasanaethau brys, ond hefyd ar ein hasiantaethau partner, cymunedau lleol, ffermwyr a thirfeddianwyr a oedd ar reng flaen yr ymateb. Derbyniodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru gymorth cydfuddiannol gan ein cymdogion yng Ngwasanaethau Tân ac Achub Lloegr, ac yn Ne Cymru, anfonwyd cymorth milwrol i helpu i gefnogi gweithrediadau. Profodd cymunedau ledled Cymru aflonyddwch ac ansicrwydd, effeithiwyd ar ardaloedd helaeth o dir ffermwyr a thirfeddianwyr, cafodd cynefinoedd gwerthfawr eu difrodi ac, mewn rhai achosion, profodd teuluoedd golled eiddo dinistriol.

Gan gydnabod bod llosgi dan reolaeth yn parhau i fod yn ffordd bwysig o reoli tir pan gaiff ei wneud yn gyfrifol, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog pawb sy’n bwriadu llosgi y tymor hwn i gydweithio’n agos â’u Gwasanaeth Tân ac Achub lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, undebau ffermio a phartneriaid eraill.

Gall ffermwyr a thirfeddianwyr losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin rhwng 1 Hydref a 15 Mawrth bob blwyddyn, gyda’r cyfnod wedi ei ymestyn tan 31 Mawrth yn yr ucheldiroedd. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sy’n bwriadu llosgi dan reolaeth sicrhau bod cynllun llosgi ar waith a bod yr holl ragofalon priodol wedi’u hystyried.

Fel rhan o’r ymgyrch #LlosgiIAmddiffyn, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn atgoffa tirfeddianwyr o gyngor diogelwch syml ond pwysig:

  • Rhowch wybod i’ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol cyn cynnal llosgiad dan reolaeth.

  • Sicrhewch fod gennych ddigon o bobl ac offer ar gael i reoli’r tân.

  • Gwiriwch amodau’r tywydd a chyfeiriad y gwynt cyn cynnau unrhyw dân.

  • Ystyriwch eiddo, ffyrdd, da byw, cynefinoedd a bywyd gwyllt cyfagos.

  • Os bydd tân yn mynd y tu hwnt i reolaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Tân ac Achub ar unwaith a rhowch wybodaeth fanwl a chywir am y lleoliad.

  • Peidiwch byth â gadael tân heb i rywun fod yn ei wylio.

  • Sicrhewch fod unrhyw dân wedi’i ddiffodd yn llwyr cyn i chi adael y safle, ac ewch yn ôl i’r ardal i wneud yn siŵr nad oes arwyddion ei fod wedi ailgynnau.

Dywedodd Andy Wright, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae’r haf hwn wedi newid y drafodaeth ynghylch tanau gwyllt yng Nghymru.

“Gwelodd pobl â'u llygaid eu hunain faint o adnoddau sydd eu hangen i ddiffodd tanau gwyllt mawr, a’r effaith y gallant ei chael ar gymunedau, busnesau, tir fferm a’r amgylchedd.

“Un o'r gwersi amlycaf o'r misoedd diwethaf yw na ellir sicrhau gwydnwch yn wyneb tanau gwyllt drwy ymdrech y gwasanaethau brys yn unig. “Mae’n dibynnu ar bartneriaethau cryf rhwng rheolwyr tir, gwasanaethau cyhoeddus, ffermwyr, cymunedau lleol a’r llywodraeth.

“Sefydlwyd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru i ddod â’r partneriaid hynny at ei gilydd, gan sicrhau ein bod yn rhannu arbenigedd, yn dysgu gwersi o ddigwyddiadau mawr ac yn cymryd camau ymarferol i leihau’r risg.

“Mae fy neges i ffermwyr a thirfeddianwyr yn syml: cymerwch yr amser i gynllunio, deall y risgiau ac ymgysylltu â’ch partneriaid lleol cyn cynnal unrhyw losgi dan reolaeth.

“Rydych chi’n adnabod eich tir yn well nag unrhyw un. Drwy gydweithio â Gwasanaethau Tân ac Achub, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynrychiolwyr ffermio, gallwch chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu bywoliaethau, gwella gwydnwch a helpu i atal y math o danau gwyllt ar raddfa fawr a effeithiodd ar gymunedau ledled Cymru yr haf hwn.

“Mae atal tanau gwyllt yn dechrau ymhell cyn cynnau tân. Mae pob penderfyniad cyfrifol a wneir y tymor llosgi hwn yn gam tuag at ddiogelu ein cymunedau, ein cefn gwlad a chenedlaethau’r dyfodol.”

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn dod â Gwasanaethau Tân ac Achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddluoedd, undebau ffermio, rheolwyr tir a sefydliadau partner eraill ynghyd i ddeall ac i leihau’r risg o danau gwyllt ledled Cymru yn well.

Drwy gydweithio a rhannu gwybodaeth, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio gwella dealltwriaeth o’r camau syml a all leihau tebygolrwydd ac effaith tanau gwyllt, gan helpu i ddiogelu cymunedau, cefn gwlad ac amgylchedd naturiol Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch #LlosgiIAmddiffyn, gan gynnwys canllawiau diogelwch ac adnoddau y gallwch eu lawrlwytho, ewch i wefan eich Gwasanaeth Tân ac Achub lleol.

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen