Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn Penodi Prif Swyddog Tân Newydd

Postiwyd

Heddiw, mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi penodi'r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Helen MacArthur fel Prif Swyddog Tân nesaf Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Ymunodd hi â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn 2018 fel Prif Swyddog Cynorthwyol ac mae'n dod a dros 30 mlynedd o brofiad mewn rolau cyllid, llywodraethu ac arweinyddiaeth ar draws  y sector gyhoeddus yng Nghymru.

Prif Swyddog Tân Helen MacArthur

Mae penodiad y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol MacArthur yn dilyn proses recriwtio drylwyr, agored a thryloyw dan arweiniad Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Denodd y rôl safon uchel o ymgeiswyr ac aseswyd ymgeiswyr trwy gyfres o gyfweliadau, paneli budd-ddeiliaid ac asesiadau seiliedig ar senarios a gynlluniwyd i werthuso gallu strategol, arweinyddiaeth weithredol a'r gallu i arwain Gwasanaeth Tân ac Achub modern.

Darparodd aseswyr proffesiynol annibynnol her a sicrwydd allanol trwy gydol y broses, gan sicrhau'r safonau uchaf o degwch a bod y broses yn agored a theg.

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Helen MacArthur:

"Mae'n anrhydedd i mi gael fy mhenodi'n Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae'r Gwasanaeth hwn wedi bod yn rhan sylweddol o fy ngyrfa ers 8 mlynedd, ac rwy'n hynod falch o gael y cyfle i arwain sefydliad sy'n golygu cymaint i mi. Yr hyn sydd bob amser wedi sefyll allan i mi yw'r ymrwymiad, y proffesiynoldeb a'r gefnogaeth a ddangosir gan gydweithwyr ar draws y Gwasanaeth.
Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd wrth i ni barhau i gefnogi ein gilydd, gwasanaethu ein cymunedau a llunio dyfodol y Gwasanaeth gyda'n gilydd."

Wrth fyfyrio ar y penodiad, dywedodd y Prif Swyddog Tân presennol, Dawn Docx:

"Ar ôl treulio 32 mlynedd yn y sector tân ac achub, mae wedi bod yn fraint llwyr gwasanaethu fel Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am y pum mlynedd diwethaf.
Hoffwn ddiolch i'n staff, ein partneriaid a'n preswylwyr am eu cefnogaeth, eu hymroddiad a'u cyfeillgarwch parhaus. Gyda'n gilydd, rydym wedi wynebu heriau, manteisio ar gyfleoedd ac wedi parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu pobl Gogledd Cymru.
Rwy'n dymuno pob llwyddiant i Brif Swyddog Tân Cynorthwyol MacArthur yn ei rôl newydd ac edrychaf ymlaen at weithio'n agos gyda hi dros y misoedd nesaf i sicrhau pontio llyfn a dyfodol llwyddiannus i'r Gwasanaeth."

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Rwy'n falch iawn o groesawu'r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Helen MacArthur fel y Prif Swyddog Tân newydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae'r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol MacArthur yn dod â chyfoeth o brofiad ac ymrwymiad cryf i'n pobl a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Mae ei phenodiad yn darparu parhad a sefydlogrwydd ar adeg bwysig i'r sefydliad, ac rwy'n gwybod y bydd hi yn arwain gydag uniondeb, proffesiynoldeb a charedigrwydd.
Hoffwn ddiolch i Dawn am ei Gwasanaeth a'i harweinyddiaeth ymroddedig a dymuno pob hapusrwydd a llwyddiant iddi yn ei hymddeoliad."

Bydd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol MacArthur yn ymgymryd â'r rôl ar Ionawr 1af. Bydd cyfnod pontio yn digwydd gyda'r Prif Swyddog Tân presennol i sicrhau trosglwyddiad llyfn o gyfrifoldebau.

 

 

 

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen