Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Un o drigolion Cartrefi Conwy yn annog eraill i ddefnyddio peiriannau’n gyfrifol ar ôl tân dinistriol mewn sychwr dillad

Postiwyd

Mae un o drigolion Cartrefi Conwy yn rhannu ei stori er mwyn rhybuddio eraill ynglŷn â’r peryglon o adael peiriannau cartref yn rhedeg heb oruchwyliaeth ar ôl i dân dinistriol achosi difrod difrifol i'w chartref yn ddiweddar.

Roedd Jaqueline wedi gadael ei sychwr dillad i redeg cyn gadael ei heiddo yng Nghyffordd Llandudno. Fe wnaeth y sychwr dillad, a oedd wedi'i leoli yng nghyntedd yr eiddo, gynnau tân - gan achosi tân difrifol a difrod mwg i'w chartref.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad a llwyddwyd i achub Rupert, ci Jaqueline, o’r eiddo. Fodd bynnag, achosodd y tân ddifrod helaeth i'r tŷ, gan olygu nad yw’n ddiogel byw ynddo tra caiff atgyweiriadau sylweddol eu gwneud. O ganlyniad, ar hyn o bryd mae Jaqueline yn gorfod byw mewn llety amgen tra caiff gwaith adfer ei wneud ar ei chartref.

Daeth ymchwiliad tân i'r casgliad mai nam trydanol yn y peiriant a achosodd y tân. Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae’r Gwasanaeth wedi cael eu galw i 56 o danau a achoswyd gan sychwyr dillad.

Yn ôl Ruth Bateman o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, sef un o’r swyddogion a gafodd eu galw i’r digwyddiad:

"Gall tân yn y cartref fod yn brofiad ofnadwy ac felly hoffwn ddiolch i Jaqueline am rannu ei stori i helpu eraill.

"Mae'r digwyddiad hwn yn atgoffa’r trigolion i gymryd gofal ychwanegol wrth ddefnyddio sychwyr dillad yn eu cartref.

"Un cyngor diogelwch allweddol y byddwn i'n ei roi i helpu i amddiffyn eich cartref rhag tanau sychwyr dillad yw:

  • Peidiwch â gadael peiriannau i redeg tra byddwch yn cysgu neu pan na fyddwch gartref.
  • Glanhewch yr hidlwyr yn rheolaidd a gwnewch yn siŵr bod y peiriannau’n cael eu cynnal a’u cadw’n iawn.
  • Cadwch eich sychwr wedi'i awyru'n dda a gwnewch yn siŵr bod y bibell awyru yn rhydd o grychion ac nad yw wedi'i rhwystro na'i gwasgu mewn unrhyw ffordd.
  • Peidiwch â gorlwytho socedi plwg a chadwch lygad am unrhyw farciau llosgi, gan gynnwys gwirio unrhyw wifrau trydanol gweladwy.
  • Cofiwch osgoi gorlwytho'ch peiriant - mae gorlwytho’n arwain at amseroedd sychu hirach a gorboethi.
  • Peidiwch â sychu eitemau sydd wedi’u halogi: Cofiwch osgoi sychu dillad ag olew, saim neu staen toddyddion arnynt, oherwydd gallant gynnau tân.
  • Dylech bob amser ganiatáu i bob rhaglen sychu, gan gynnwys y 'cylch oeri', gwblhau'n llawn cyn gwagio'r peiriant. Os byddwch yn stopio'r peiriant yng nghanol y cylch, bydd y dillad yn dal i fod yn boeth.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich sychwr wedi'i osod mewn lleoliad addas nad yw'n rhwystro unrhyw lwybrau dianc.

"Gall dilyn y camau hyn helpu i leihau risg tanau yn eich cartref.

"Yn ogystal, gwnewch yn siŵr bob amser bod gennych larymau mwg sy'n gweithio a'ch bod yn eu profi unwaith yr wythnos - mae larymau mwg yn achub bywydau.

"Byddwn hefyd yn argymell yn gryf bod preswylwyr yn cofrestru eu peiriannau fel y gall gweithgynhyrchwyr gysylltu â chi pe bai cynnyrch yn cael ei alw'n ôl - gellir gwneud hyn yn www.registermyappliance.org.uk."

Ychwanegodd Dan Hall, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid a Chymunedau Cartrefi Conwy:

"Mae'r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at ba mor gyflym y gall tân ledaenu a'r effaith ddinistriol y gall ei gael ar fywydau pobl. Rydym yn cefnogi Jaqueline a'i theulu tra caiff gwaith atgyweirio ei wneud i’w chartref a byddem yn annog pob preswylydd i feddwl yn ofalus am ddiogelwch peiriannau yn eu cartrefi. Rydym hefyd yn annog pob tenant i sicrhau bod eu llwybrau dianc yn cael eu cadw'n glir bob amser, ac na ddylai sychwyr dillad byth gael eu lleoli mewn allanfeydd."

Mae Jaqueline yn gobeithio y bydd ei phrofiad yn annog eraill i gymryd diogelwch peiriannau o ddifrif ac y bydd yn helpu i atal digwyddiadau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol.

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen