Mae staff o'r Gwasanaeth yn ymuno â phartneriaid ar gyfer Diwrnod Atal Boddi y Byd ar 25 Gorffennaf i helpu i rannu negeseuon diogelwch dŵr pwysig gyda'n cymunedau.
Bydd y Gwasanaeth yn ymuno â phartneriaid ar gyfer dau ddigwyddiad ymwybyddiaeth diogelwch dŵr cyhoeddus - un yn Llyn Tegid, Y Bala ac un yn Llyn Padarn, Llanberis.
Bydd partneriaid o Byw'n Iach Gwynedd yn cynnal sesiynau SwimSafe yn Llyn Tegid gyda chefnogaeth ein criw o'r Bala, tra bydd staff o'n tîm Atal a chriw Bangor yn cefnogi sesiynau SwimSafe Plas Menai yn Llyn Padarn ochr yn ochr.
Mae angen archebu lle ar gyfer y sesiynau hyn a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y dolenni isod:
- Trefnwch sesiwn yn Llyn Tegid am 1:30pm
- Trefnwch sesiwn yn Llyn Padarn am naill ai 10am neu 1pm
Dywedodd Kim Jones, Rheolwr Gwylfa Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn dod at ein gilydd i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo diogelwch, a chyflwyno negeseuon hanfodol fel 'Arnofiwch i Fyw' a 'Ffôn. Taflu. Arnofio'.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu aelodau o'r cyhoedd i'r digwyddiadau hyn a chodi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr – mae croeso i bawb."

