Partneriaid Gogledd Cymru yn annog pawb i aros yn ddiogel yn y gwres
PostiwydMae Gogledd Cymru o dan rybudd tywydd Oren ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i'r tymheredd barhau i fod yn uchel drwy’r wythnos.
Mae gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, iechyd a phartneriaid eraill yn cydweithio fel rhan o Fforwm Gwydnwch Lleol y Gogledd i fonitro'r sefyllfa ar draws y rhanbarth ac i ymateb i unrhyw broblemau.
Anogir trigolion ac ymwelwyr â Gogledd Cymru i gymryd ychydig o gamau ychwanegol i gadw’n ddiogel yn y gwres.
- Cadwch lygad ar eraill
- Chwiliwch am gysgod rhwng 11am a 3pm
- Gwisgwch eli haul SPF 30+
- Gwisgwch het, sbectol haul a dillad llac
- Yfwch ddigon o ddŵr
- Lleihau peryglon tân
- Peidiwch â dechrau tanau
- Paciwch bicnic, nid barbeciw
- Gwaredwch sigarennau yn ddiogel
- Ewch â’ch sbwriel adref efo chi
Cadw’n ddiogel o amgylch dŵr
- Gall dŵr fod yn beryglus o oer er y tywydd poeth. Osgowch neidio i ddŵr agored i oeri - cofiwch fynd i mewn i'r dŵr yn araf i leihau'r risg o sioc dŵr oer.
- Os ewch chi i drafferth yn y dŵr, cofiwch 'Arnofiwch i Aros yn Fyw'.
- Os gwelwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch byth â mynd i mewn i'r dŵr eich hun. Ffoniwch 999.
Teithio
- Meddyliwch. Ydi eich taith yn angenrheidiol? Allwch chi deithio ar adeg wahanol o'r dydd neu ei ohirio am ddiwrnod arall?
- Os byddwch chi'n teithio ar y ffordd, ewch â digon o ddŵr gyda chi, cynlluniwch eich seibiannau, disgwyliwch rywfaint o aflonyddwch a gofalwch am eich gilydd.
- Os byddwch chi'n teithio ar gludiant cyhoeddus, yfwch ddigon a chaniatewch amser ychwanegol ar gyfer eich taith, mae’n bosib y bydd y tywydd poeth yn tarfu ar y gwasanaethau
- Dim ond lle caniateir gwersylla y dylid gwneud hynny
Am y cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch ffynonellau dibynadwy ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein.
Am fwy o wybodaeth am leihau'r risg o dân yn ystod tywydd poeth a sych a chadw'n ddiogel o amgylch dŵr, ewch i https://www.tangogleddcymru.llyw.cymru/cadw-chin-ddiogel/diogelwch-yn-ystod-yr-haf/
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyngor ar gadw'n ddiogel yn ystod y gwres eithafol. Darllenwch https://icc.gig.cymru/2026/06/22/iechyd-cyhoeddus-cymru-yn-rhoi-cyngor-i-aros-yn-ddiogel-wrth-i-rybudd-tywydd-coch-gael-ei-gyhoeddi/.
Rhybuddion y Swyddfa Dywydd: https://www.metoffice.gov.uk/weather/warnings-and-advice/uk-warnings

