Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Ganolfan Hyfforddi a Datblygu newydd-Hwb Awen

Dyluniad artist o tu allan i Hwb Awen
Dyluniad artist o tu allan i Hwb Awen

Lansio Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ganolfan Hyfforddi newydd - Hwb Awen

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwahodd y cyhoedd i ddweud eu dweud am gynlluniau Hwb Awen, Canolfan Hyfforddi a Datblygu newydd ar hen safle ffatri wydr Pilkington ym Mharc Busnes Llanelwy.

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn agored rhwng 29 Mehefin ac yn cau am hanner nos 31 Awst. Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect a'r ymgynghoriad ar gael ar-lein ar y wefan Ymgynghoriad Canolfan Hyfforddi a Datblygu Hwb Awen.

Bydd y safle yn darparu canolfan fodern, ganolog. Gall 89% o orsafoedd tân Gogledd Cymru gyrraedd yr ardal o fewn 60 munud. Bydd yn cynnwys cyfleusterau hyfforddi, ardaloedd gweithredol arbenigol, llety, storfeydd gweithredol a phencadlys newydd.

Dywedodd Justin Evans, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol ac arweinydd strategol y prosiect:

"Mae hyn yn llawer mwy nag adeilad newydd. Mae'n ymwneud â chreu sylfaen ddiogel, fodern a gwydn sy'n cefnogi ein diffoddwyr tân, yn cryfhau arweinyddiaeth, ac yn sicrhau y gallwn barhau i amddiffyn pobl Gogledd Cymru rhag risgiau cymhleth sy’n dod i’r amlwg"

Mae'r angen am newid yn cael ei yrru gan gyflwr a chyfyngiadau’r cyfleusterau presennol. Mae llawer ohonynt yn heneiddio, yn gostus i'w cynnal a ddim bellach yn addas ar gyfer safonau gweithredol ac amgylcheddol gweithlu modern.


Mae manteision allweddol yn cynnwys:

  • Cynyddu capasiti hyfforddi diffoddwyr tân o 60%
  • Darparu hyfforddiant mwy realistig
  • Gwella diogelwch diffoddwyr tân trwy ddulliau hyfforddi modern sy'n lleihau cysylltiad niweidiol
  • Cryfhau parodrwydd gweithredol ac ymateb brys
  • Gwella cydweithio gyda’n partneriaid.
  • Creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi lleol, gan gynnwys targedau ar gyfer 580 wythnos o leoliadau, 2,500 o oriau hyfforddi a chyflogi 60% o’r gweithlu o Gymru
  • Cefnogi cynaliadwyedd trwy adeiladau a dyluniad  ynni-effeithlon
  • Lleihau effaith amgylcheddol trwy ddulliau hyfforddi glanach ac allyriadau is

Digwyddiadau Ymgynghori

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i weld y cynlluniau, gofyn cwestiynau a rhannu eu barn ar y dyddiadau isod:

  • 28 Gorffennaf, 2pm–6pm – Gorsaf Dân Llanelwy
  •     4 Awst, 5pm–7pm – Gorsaf Dân Llanelwy

Bydd cyfle hefyd i'r cyhoedd ddysgu am y prosiect a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn y sioeau haf canlynol;

  • Sioe Sirol Ynys Môn, Awst 11-12
  • Sioe Sirol Dinbych a'r Fflint, Awst 20
  • Sioe Sirol Meirionnydd, Awst 26

Mae digwyddiad ar wahân i drigolion a'r gymuned fusnes sydd wedi’u leoli’n agosaf at y safle eisoes wedi cael ei  gynnal.


Am ragor o wybodaeth

Cysylltwch â ni:

E-bost: hwbawen@tangogleddcymru.llyw.cymru

Ffôn: 01745 535250 neu

Post: Hwb Awen, Pencadlys, Ffordd Salesbury, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0JJ

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen