Digwyddiad Mawr- Twnnel Conwy ar gau
PostiwydMae ymateb aml-asiantaeth ar y gweill yn dilyn digwyddiad mawr yn ymwneud â thân cerbyd yn Nhwnnel Conwy ar yr A55 tua'r gorllewin. Cafwn gwybod am y tân am 13:48, ac mae'r gwasanaethau brys yn gweithio gyda'i gilydd yn y fan a'r lle.
Mae'r tân bellach dan reolaeth, a gallwn gadarnhau nad oes unrhyw farwolaethau wedi bod.
Oherwydd graddfa'r digwyddiad a'r angen am asesiadau diogelwch parhaus, mae Twnnel Conwy yn parhau i fod ar gau i'r ddau gyfeiriad a disgwylir iddo aros ar gau am gyfnod sylweddol o amser. Bydd angen cynnal archwiliadau manwl i asesu unrhyw ddifrod cyn y gellir ailagor y twnnel yn ddiogel.
Rydym yn ymwybodol o'r aflonyddwch difrifol sydd wedi'i achosi a bod traffig ar hyd yr A55 wedi cael ei effeithio fodd bynnag mae gwyriadau ar waith.
Mae ffyrdd yn ac o amgylch ardaloedd Bae Colwyn, Conwy, Llanrwst a Betws-y-Coed yn hynod brysur ar hyn o bryd – gan gynnwys pentrefi cyfagos, ac rydym yn annog modurwyr i ganiatáu digon rhagor o amser teithio.
Rhagwelir bydd aflonyddwch sylweddol dros y dyddiau nesaf, ac mae modurwyr yn cael eu cynghori i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am draffig a theithio drwy https://traffig.cymru.
Rydym yn annog y cyhoedd i:
- Gadw ei ffenestri a drysau ar gau os maent yn byw gerllaw, fel rhagofal oherwydd mwg yn yr ardal.
- Osgoi'r ardal, mae oedi sylweddol ar yr A55 a'r llwybrau cyfagos.
- Defnyddio'r llwybrau gwyriad strategol
Rydym yn diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus wrth i asiantaethau weithio gyda'i gilydd i reoli'r sefyllfa yn ddiogel ac yn effeithiol.