Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Digwyddiad

diweddariad gyda crest dan a peiriant tan

Diweddariad Twnnel Conwy

20.06.25

Diweddariad 16:03 Mae datganiad i'r wasg wedi'i gyhoeddi sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am yr ymateb i'r digwyddiad. Darllenwch y datganiad i'r wasg yma.

Diweddariad 13:15 Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi datagniad i'r wasg gyda neges i gwniau cludiant. Darllenwch y datganiad i'r wasg yma.

Diweddariad 08:51 Mae datganiad i'r wasg wedi'i cael ei ddiweddaru gyda rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar effaith y digwyddiad. Darllenwch y datganiad i'r wasg yma.

Diweddariad 07:25 Mae system wrthlif bellach ar waith ar ochr ddwyreiniol y ffordd. Mae hyn yn caniatáu 1 lôn o draffig i deithio naill cyfeiriad a'r llall. Mae'r ffordd tua'r gorllewin yn parhau i fod ar gau.
Rydym yn cynghori gyrwyr i ganiatáu amser teithio ychwanegol ac i daro golwg ar wefan a sianeli Traffig Cymru am y wybodaeth teithio a thraffig diweddaraf. 

Digwyddiad – Cerbyd ar dân yn Nhwnnel Conwy

Diweddariad 18:23 Rhagwelir bydd aflonyddwch sylweddol dros y dyddiau nesaf. Rydym yn cynghori i yrwyr ganiatáu amser ychwanegol i deithio ac i gadw golwg ar wefan Traffig Cymru am y wybodaeth deithio ddiweddaraf.

Diweddariad 17:33 Mae datganiad i'r wasg wedi'i gyhoeddi sy'n rhoi rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar y digwyddiad. Darllenwch y datganiad i'r wasg yma.

Diweddariad 15:42 Mae hyn bellach wedi'i ddatgan yn ddigwyddiad mawr. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid aml-asiantaeth i reoli'r tân, diogelu'r amgylchedd ac ailagor y twnnel cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny. Cadwch eich ffenestri a drysau ar gau os ydych chi'n byw yn y cyffiniau.

Diweddariad 15:10 Mae ein criwiau yn bresennol ar hyn o bryd ac yn delio â tân cerbyd yn Nhwnnel Conwy ar yr A55. Disgwylir i'r twnnel fod ar gau i'r ddau gyfeiriad am beth amser. Osgowch yr ardal a chwiliwch am lwybrau eraill. Diweddariadau pellach i ddilyn. Diolch am eich amynedd a'ch cydweithrediad.

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen