Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad ar Storm Darragh – Aflonyddwch a cyngor diogelwch

Postiwyd

Mae ymatebwyr aml-asiantaeth Gogledd Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth i amddiffyn cymunedau gan fod #StormDarragh wedi dod â thywydd garw dros nos.

Mae Rhybudd Coch am wyntoedd cryfion a Rhybuddion Melyn am lifogydd yn parhau mewn lle.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Owain Llewellyn: “Diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth o hyd. Mae gwyntoedd eithafol a llifogydd posibl yn parhau i beri risgiau sylweddol heddiw.

“Rydym wedi gweld aflonyddwch difrifol ar draws y rhanbarth. Mae llawer o ffyrdd ar gau felly cofiwch osgoi teithio diangen a dilynwch gyngor swyddogol.”

Gwybodaeth Allweddol:

  • Mae'r gwasanaethau brys, cynghorau lleol, a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cydlynu ymatebion ac yn paratoi amddiffynfeydd.
  • Disgwylir amhariad teithio. Edrychwch allan am y wybodaeth ddiweddaraf trwy sianeli dibynadwy.
  • Mae cefnogaeth ar gael i drigolion bregus.
  • Gwnewch yn siwr eich bod hefo’r gwybodaeth diweddaraf.

Dilynwch ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol gan:

  • Y Swyddfa Dywydd (tywydd)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (llifogydd)
  • Traffig Cymru (ffyrdd)
  • Awdurdodau lleol (aflonyddwch lleol)
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (tanau a llifogydd)

Byddwch #YmwybodolO’rTywydd, ceisiwch osgoi teithio os yn bosibl, a chadwch lygad allan am ddiweddariadau.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen