Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar barhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill
PostiwydMae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ei Gynllun Rheoli Risg Cymunedol pum mlynedd 2024-2029 a lleisio barn ar ei bum egwyddor ar gyfer cadw cymunedau'n ddiogel.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Dawn Docx: “Nod Cynllun Rheoli Risg Cymunedol yw nodi risgiau sy'n wynebu'r gymuned a disgrifio sut y bydd yr Awdurdod Tân ac Achub yn rheoli'r risgiau hynny, ac yn parhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill.
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn bwysig i bawb yng Ngogledd Cymru ac felly mae gwrando ar eich barn yn bwysig i ni.
"Rydyn ni eisiau gwybod a ydych chi'n credu ein bod wedi nodi'r risgiau mwyaf priodol ac a fydd ein cynlluniau a'n hamcanion yn cyflawni nodau ein pum egwyddor."
Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae adborth y rheini sy’n byw ac yn gweithio yn ein hardal ac yn ymweld â hi yn bwysig iawn – hoffem wybod eich barn am ein cynlluniau cyn i ni fel Awdurdod Tân ac Achub wneud unrhyw benderfyniadau terfynol.
"Felly cymerwch yr amser i gwblhau'r holiadur ymgynghori. "Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, y mwyaf gwybodus y gallwn fod fel y gallwn sicrhau ein bod yn parhau i gadw ein cymunedau mor ddiogel â phosibl."
Mae'r ymgynghoriad yn agor ar 25 Mawrth 2024 ac yn cau am hanner nos ar 16 Mehefin 2024.
I gymryd rhan, ewch i www.tangogleddcymru.llyw.cymru i gwblhau'r holiadur a chael mynediad at yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ateb y cwestiynau. Dolen uniongyrchol yma.
Gallwch ein ffonio neu anfon neges destun at 07787 578 386, neu gallwch e-bostio Einpumegwyddor@tangogleddcymru.llyw.cymru os yw’n well gennych gael fformat hawdd i’w ddarllen neu gopi papur o’r holiadur y gallwch ei ddychwelyd atom yn rhad ac am ddim.
Mae yna far offer cynorthwyol ar y wefan gyda swyddogaeth darllen yn uchel, testun mwy ac i weld yr wybodaeth mewn amrywiaeth o ieithoedd ychwanegol.
Dilynwch Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau:
X/Twitter: @NorthWalesFire
Facebook: @Northwalesfireservice
Neu chwiliwch am ‘North Wales Fire and Rescue Service’ ar LinkedIn
Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan yr Awdurdod Tân - bydd manylion am y cyfarfod i wneud penderfyniad ar gael ar www.tangogleddcymru.llyw.cymru, ynghyd â chofnod o’r trafodion.