Cadwch yn Ddiogel y Nadolig Yma
PostiwydWrth i deuluoedd fod yn brysur yn gwneud eu cynlluniau ar gyfer cyfnod y Nadolig, mae Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n annog trigolion i gofio rhai awgrymiadau syml i gadw’n ddiogel yn ystod tymor y dathlu.
Meddai Kevin Jones, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: “Rydyn ni i gyd yn hoffi mwynhau ein hunain yn ystod y cyfnod gwyliau – ond mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn cofio am ein diogelwch ein hunain a diogelwch ein hanwyliaid wrth i ni ddathlu.
“Mae’r cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn amser i ymlacio ac i fwynhau bod gyda theulu a ffrindiau – ond mae’n hanfodol fod pawb ar eu gwyliadwriaeth er mwyn atal tân allai ddinistrio’r cartref a cholli anrhegion ac eiddo, dioddef anafiadau difrifol neu’n waeth, eich lladd chi neu rywun annwyl.
“Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi cael dau ddigwyddiad gyda thannau o ganlyniad i goginio ym Mhandy ger Llangollen a Bangor lle bu’r trigolion yn ffodus i ddianc o’u tai. Yn y ddau ddigwyddiad yma, roedd y trigolion yn eu hwythdegau neu nawdegau ac wedi gadael bwyd yn coginio yn y gegin heb dalu sylw iddo.
“Mae mwy o dannau’n digwydd yn y gegin nag mewn unrhyw ystafell arall yn y tŷ – a does ond angen un peth i dynnu’ch sylw i’r tân gychwyn. Peidiwch byth â gadael yr ystafell tra mae bwyd yn coginio a pheidiwch ag yfed a choginio – a gofynnwn i chi ein helpu i drosglwyddo’r neges yma i unrhyw aelodau hŷn neu fregus o’ch teulu, ffrindiau neu gymdogion, os gwelwch yn dda.
“Rwy’n awyddus i ni oll weithio gyda’n gilydd i helpu i gadw’n cymunedau’n ddiogel – beth am feddwl yn ddiogel er mwyn cadw’n ddiogel.”
Mae Kevin yn annog pawb i gadw’n ddiogel ac amddiffyn eu cartrefi rhag tân drwy ddilyn y deuddeng awgrym yma ar gyfer diogelwch tân dros yr ŵyl:
- Gwnewch yn siŵr fod goleuadau eich coeden Nadolig yn cydymffurfio â’r Safon Brydeinig. Defnyddiwch RCD bob amser ar offer trydanol awyr agored (dyfais ddiogelwch all achub bywydau drwy ddiffodd y pŵer yn syth).
- Peidiwch byth â gosod canhwyllau’n agos at eich coeden Nadolig, dodrefn neu lenni. Peidiwch â’u gadael yn cynnau os nad oes rhywun yn yr ystafell.
- Gwnewch yn siŵr fod eich teulu ac ymwelwyr sy’n aros gyda chi dros gyfnod yr ŵyl yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng. Cofiwch ymarfer cynllun dianc o’r adeilad.
- Gall addurniadau losgi’n hawdd – Peidiwch â’u gosod ar oleuadau neu wresogyddion.
- Diffoddwch offer trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, os nad ydynt wedi eu cynllunio i aros ymlaen.
- Cymerwch ofal arbennig gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch y goleuadau a thynnu’r plwg o’r soced cyn mynd i’r gwely. Rydym yn defnyddio mwy o eitemau trydanol yn ystod y Nadolig – peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau ond defnyddiwch socedi lluosog ar lid sydd â’r ffiws priodol ar gyfer mwy nag un offer. Gofynnwn i chi edrych ar y gyfrifiannell amp ar www.northwalesfire.gov.wales / Eich cadw chi'n ddiogel / Yn y Cartref / Gofalu am popeth Trydanol neu defnyddiwch y ddolen hon
- Mae’r mwyafrif o dannau’n digwydd yn y gegin – peidiwch byth â gadael yr ystafell tra mae bwyd yn coginio. Dathlwch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel. Mae’r risg o ddamweiniau, yn arbennig yn y gegin, yn uwch wedi yfed alcohol.
- Os ydych chi’n bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch hwy mewn bocs metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi ei oleuo a chadwch fwced o ddŵr wrth law.
- Gwnewch yn siŵr fod sigarennau wedi eu diffodd yn llwyr.
- Gwiriwch y batri yn eich larymau mwg bob wythnos a defnyddiwch y Nadolig fel adeg i’ch atgoffa i’w glanhau a chael gwared â llwch. Gallwch dderbyn larwm mwg rhad ac am ddim a chofrestru am wiriad diogel ac iach drwy ffonio 0800 1691234.
- Gwnewch yn siŵr fod canhwyllau, tanwyr a matsis allan o gyrraedd plant.
- Gwnewch amser i gadw golwg ar berthnasau a chymdogion hŷn y Nadolig yma – gwnewch yn siŵr eu bod hwy’n ddiogel rhag tân hefyd, yn ogystal â meddwl am eu lles.
Ewch i’n tudalen Facebook i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth diogelwch Nadolig sy’n dechrau wythnos nesa ac fe allech ennill hamper siocled. www.facebook.com/northwalesfire