Y Gwasanaeth yn amlygu’r gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau
Postiwyd
Yn dilyn Wythnos Diogelwch Busnesau’r DU'r wythnos diwethaf, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn amlygu’r gefnogaeth sydd ar fael i fusnesau lleol gan bwysleisio pwysigrwydd edrych ar fanylion pawb sydd am ymweld â’u safleoedd i gynorthwyo gyda’r dasg o gynhyrchu asesiadau risgiau tân.
Meddai Paul Jenkinson, Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Os ydych chi’n berchennog busnes yna mae’r Gorchymyn Diwygio rheoleiddio (Diogelwch Tân) yn rhoi dyletswydd gyfreithiol arnoch chi i leihau’r risgiau tân ar eich safle a gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu mynd allan yn ddiogel mewn achos o dân.
“I’ch helpu gyda hyn, mae’n ofynnol i chi gwblhau asesiad risgiau tân. Yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, gallwn gynnig cyngor i fusnesau ar y modd y dylent gynnal asesiad diogelwch tân ar eich safle – mae hyn weithiau’n golygu ymweld â’ch safle busnes.
“Rydym bob amser yn mynnu bod perchnogion/rheolwyr yn bresennol yn ystod ymweliad, ac rydym bob amser yn cario cerdyn adnabod.
“Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch y bobl sydd yn cysylltu â chi ynghylch cynhyrchu asesiad risgiau tân, cysylltwch â’ch adran safonau masnach leol cyn gynted â phosib.”
Am ragor o wybodaeth ar ddioglech tân i fusnesau cliciwch yma.
I gael manylion cyswllt eich swyddfa safonau masnachu leol, cysylltwch â’ch cyngor lleol.