Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn #DoethiDanauGwyllt y gwanwyn a'r haf hwn

Postiwyd

Wrth i'r tymhorau newid a thywydd cynhesach ddechrau cyrraedd, mae'n gyfle perffaith i wneud y gorau o'r awyr agored. P'un a yw hynny'n golygu cynllunio gwyliau gartref, mynd ar daith wersylla i'r teulu, neu archwilio harddwch cefn gwlad.

Mae'r gwanwyn a'r haf yn dod â risg uwch o danau gwyllt. Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog pawb i fod yn #DoethiDanauGwyllt trwy ddilyn ein cyngor diogelwch syml, ymarferol. Gall ychydig bach o ofal ychwanegol wneud gwahaniaeth enfawr, gan helpu i amddiffyn ein cefn gwlad syfrdanol a chadw cymunedau'n ddiogel rhag effaith ddinistriol tanau gwyllt.

Yn 2025, ymatebodd y gwasanaethau tân ledled Cymru i 3,474 o ddigwyddiadau tanau glaswellt - cynnydd o 275% ar y flwyddyn flaenorol.

Yn fwyaf pryderus: Cododd tanau glaswellt bwriadol i 2,357 o ddigwyddiadau, cynnydd o 1,694 o danau (i fyny 256%).

Mae hyn yn cynrychioli'r nifer uchaf o danau glaswellt ers 2018, gan dynnu sylw at duedd bryderus iawn sy'n peryglu pobl, eiddo, bywyd gwyllt ac adnoddau cymunedol hanfodol.

Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gall glaswellt a llethrau mynyddoedd sychu'n gyflym. Gall hyd yn oed gwreichionen fach — damweiniol neu fwriadol—droi’n dân sy'n symud yn gyflym ac sy'n gallu dinistrio cynefinoedd, tirweddau, a chartrefi o fewn munudau.

Mae’r Bwrdd Tanau Gwyllt yn awyddus i weithio gyda'n cymunedau er mwyn creu tirwedd sy’n iachach ac yn fwy gwydn, a hynny trwy wella bioamrywiaeth ar gyfer ein dyfodol.

Nod ein hymgyrch #DoethiDanauGwyllt yw addysgu unigolion am yr arferion gorau o ran osgoi ac atal tanau gwyllt yng Nghymru.

Trwy wella ymwybyddiaeth o beryglon posibl tanau gwyllt, bydd yr ymgyrch yn annog pobl i fod yn fwy gwyliadwrus pan fyddant allan yn yr awyr iach ac i fod yn weithgar wrth adrodd am weithgareddau amheus a allai arwain at danau.

Gellir atal llawer iawn o danau gwyllt, ac mae ambell i beth bach y gallwn wneud er mwyn cyfyngu ar ba mor aml y maent yn digwydd a chyfyngu ar eu heffaith.

Dywedodd Andrew Wright, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth yn Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae ein hymgyrch Doeth i Danau Gwyllt yn tynnu ar dros ddegawd o brofiad o fynd i'r afael â thanau gwyllt ledled Cymru, ond roedd maint digwyddiadau’r llynedd yn wirioneddol ddigynsail. Mae'r cynnydd mewn tanau glaswellt a welsom yn 2025 yn dangos pa mor frys y mae angen i ni i gyd weithredu i amddiffyn ein cefn gwlad a chadw ein cymunedau'n ddiogel.

"Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i adeiladu tirwedd iachach, mwy gwydn a bioamrywiol ar gyfer y dyfodol. Er y gall damweiniau ddigwydd, mae modd osgoi llawer ohonynt,

ac mae ein hymgyrch yn tynnu sylw at y camau syml y gallwn ni i gyd eu cymryd i atal tanau glaswellt rhag cychwyn.

"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau, ffermwyr a thirfeddianwyr i rannu gwybodaeth am effaith tanau bwriadol a damweiniol. Rydym yn cydnabod y gall llosgiadau dan reolaeth gefnogi bioamrywiaeth, ac rydym ar gael i gynnig cyngor am ddim ar sut i'w cyflawni'n ddiogel.

"Ac er bod rhai tanau yn ddamweiniol, mae eraill yn cael eu cynnau’n fwriadol. Mae hon yn weithred droseddol sy'n peryglu bywydau ac yn rhoi pwysau diangen ar wasanaethau rheng flaen - pwysau a welsom yn rhy glir o lawer yn ystod y cynnydd digynsail mewn digwyddiadau y llynedd."

Trwy weithio gyda'n cymunedau i rannu gwybodaeth, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio gwella dealltwriaeth o'r hyn y gall y Gwasanaeth ei wneud i atal tanau damweiniol rhag digwydd ac i gyfyngu ar y difrod y gallant ei wneud i'r amgylchedd. Gallwch ddysgu mwy am #DoethiDanauGwyllt drwy fynd i #DoethiDanauGwyllt Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â chael awgrymiadau diogelwch syml a negeseuon diogelwch yr ymgyrch i'w lawrlwytho a’u defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun. Gyda'n gilydd, gallwn atal tanau glaswellt ac amddiffyn ein cefn gwlad a Chymru.

Cofiwch - os ydych allan yng nghefn gwlad ac yn gweld unrhyw un yn ymddwyn yn amheus, ffoniwch CrimeStoppers yn ddienw trwy alw 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen