Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd y camau nesaf ar gyfer canolfan hyfforddi a datblygu newydd yn Llanelwy

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd y camau nesaf ar gyfer canolfan hyfforddi a datblygu newydd yn Llanelwy

Postiwyd

Llun artist o Hwb Awen Canolfan Hyfforddi a Datblygu

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyhoeddi Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Hwb Awen, canolfan hyfforddi a datblygu integredig newydd yn Llanelwy. Mae hwn yn gam sylweddol tuag at foderneiddio sut mae'r Gwasanaeth yn hyfforddi a chefnogi staff i amddiffyn cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Cymeradwywyd yr Achos Busnes Amlinellol heddiw gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, gan alluogi'r Gwasanaeth i symud ymlaen i gam nesaf y prosiect. Byddai Hwb Awen yn dod â sawl safle sydd wedi’u heneiddio a’u gwasgaru'n ddaearyddol at ei gilydd i un ganolfan bwrpasol a gynlluniwyd i fodloni gofynion darpariaeth brys modern.

Mae Hwb Awen - enw a ddewiswyd gan staff - yn adlewyrchu'r uchelgais y tu ôl i'r prosiect. Mae Hwb yn golygu pwynt canolog o egni a chysylltiad, tra bod Awen, wedi'i darddu o chwedloniaeth Cymraeg, ac yn cynrychioli ysbrydoliaeth, creadigrwydd a thrawsnewid. Gyda'i gilydd, maent yn symbol o le ar gyfer dysgu, arweinyddiaeth a rhagoriaeth mewn gwasanaeth cyhoeddus.

Bydd y cyfleuster arfaethedig yn Llanelwy yn cynnwys:

·                 canolfan hyfforddi ganolog gydag ystafelloedd dosbarth, cyfleusterau rheoli digwyddiadau a mannau lles

·                 amgylcheddau hyfforddi tân a gwrthdrawiadau traffig ffyrdd realistig wedi'u halinio â risgiau gweithredol sy'n dod i'r amlwg

·                 offer anadlu arbenigol a chyfleusterau diheintio

·                 llety dros nos i gefnogi hyfforddiant estynedig ac arbenigol

·                 storfeydd gweithredol canolog i wella parodrwydd ac effeithlonrwydd

·                 pencadlys modern sy'n dod ag arweinyddiaeth a thimau'r Gwasanaeth at ei gilydd

·                 cyfleusterau a gynlluniwyd i gefnogi gwaith cynhwysol a hyfforddiant amlasiantaeth

Dywedodd Justin Evans, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol ac arweinydd strategol y prosiect:

"Mae hyn yn llawer mwy nag adeilad newydd. Mae'n ymwneud â chreu sylfaen ddiogel, fodern a gwydn sy'n cefnogi ein diffoddwyr tân, yn cryfhau arweinyddiaeth, ac yn sicrhau y gallwn barhau i amddiffyn pobl Gogledd Cymru rhag risgiau cymhleth sy’n dod i’r amlwg"

Mae'r angen am newid yn cael ei yrru gan gyflwr a chyfyngiadau’r cyfleusterau presennol. Mae llawer ohonynt yn heneiddio, yn gostus i'w cynnal a ddim bellach yn addas ar gyfer safonau gweithredol ac amgylcheddol gweithlu modern.

Mae'r Achos Busnes Amlinellol yn nodi amcangyfrif o gost o £49.95 miliwn, yn amodol ar gymeradwyaeth bellach. Mae'r Gwasanaeth yn ceisio am gyllid allanol i adeiladu'r ganolfan, gyda chynigion cyllido manwl wedi'u nodi yn yr achos busnes.

Pe bai'n cael ei gymeradwyo, bydd Hwb Awen yn:

·                 gwella diogelwch diffoddwyr tân ac ansawdd hyfforddiant

·                 gwella cydlynu a pharodrwydd gweithredol 

·                 lleihau teithio ar draws cyfleusterau'r gwasanaeth

·                 cryfhau cydweithrediad y gwasanaethau brys gyda phartneriaid

·                 cefnogi cynaliadwyedd ac amcanion sero net yng Nghymru

Arwydd Hwb Awen Canolfan Hyfforddi a Datblygu
Arwydd y safle Canolfan Hyfforddi a Datblygu Hwb Awen

Ychwanegodd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Evans:

"Mae hwn yn fuddsoddiad hirdymor yn ein pobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bydd y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud rwan yn siapio sut rydyn ni'n hyfforddi, arwain ac ymateb i argyfyngau am ddegawdau i ddod."

Mae cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol yn garreg filltir allweddol i'r prosiect. Bydd y camau nesaf yn cynnwys sicrhau cyllid a datblygu'r achos busnes llawn sydd ei angen cyn y gall y gwaith adeiladu ddechrau.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen