Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dyn yn marw yn dilyn tân yn y Rhyl

Postiwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn eiddo domestig ar Ffordd Bryn Cwnin, Y Rhyl ddydd Sul 25 Ionawr.

Derbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr alwad am 10.47 o'r gloch a chafodd dau griw o'r Rhyl a chriw o Abergele eu gyrru i'r digwyddiad.

Yn anffodus, daethpwyd o hyd i gorff dyn y tu mewn i'r eiddo, ac yn ddiweddarach cafodd ei gyhoeddi yn farw.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru bellach ar y gweill i ganfod achos y tân.

Nid yw wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.

Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg anodd iawn hon.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen