Blwyddyn Newydd, Dechrau Newydd!
PostiwydYmunwch â’n tîm – mae eich gorsaf dân leol angen chi!

Wrth i flwyddyn newydd gychwyn, dyma’r amser perffaith i wneud her newydd, i wneud rhywbeth gwerthfawr i'r gymuned ac i ddarganfod beth rydych chi'n wirioneddol alluog ei wneud.
Mae Pennaeth Ymateb y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwahodd trigolion lleol i feddwl am yrfa werth chweil fel Diffoddwr Tân ar Alwad.
Mae Mike Owen, a ymunodd â'r Gwasanaeth fel Diffoddwr Tân ym 1994, bellach yn arwain y swyddogaeth Ymateb ar draws y rhanbarth. Dywedodd Mike:
"Mae dod yn ddiffoddwr tân ar alwad yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu sgiliau newydd, adeiladu cysylltiadau a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
"Os ydych chi'n chwilio am ffordd ystyrlon o ddechrau'r flwyddyn, cymerwch y cam cyntaf i ddarganfod mwy. Mae eich cymuned angen pobl fel chi.
"Mae diffoddwyr tân ar alwad yn dod o bob cefndir ac yn aml iawn efo swyddi neu ymrwymiadau eraill. Er y gall y rôl fod yn heriol ac er nad ydi o’n hawdd i rhagweld beth sy’n dod, mae hefyd yn rôl fedrwch chi ymfalchïo ynddi.
"Mae angen pobl arnom yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, ond lle bynnag rydych chi'n byw, byddwch chi'n derbyn hyfforddiant o'r radd flaenaf, cyfleoedd datblygu, a'r cyfle i gael effaith go iawn ar eich cymuned leol.
"Fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, byddwch yn ymateb i alwadau brys, yn cefnogi gweithgareddau cymunedol lleol, ac yn darparu cyngor atal tân bwysig i helpu i gadw pawb yn ddiogel.
"Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau astudio, gwaith neu deuluol – yn ogystal â chyfleoedd hyfforddi a datblygu rhagorol.
"Mae Diffoddwyr Tân ar alwad yn rhan hanfodol o'n Gwasanaeth. Mae'r rôl yn heriol ac yn gyffrous, gan ddod â'r boddhad a'r parch sy'n dod o wasanaethu ac amddiffyn eich cymuned.
“Ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth? Cofrestrwch eich diddordeb heddiw!"
Mae gweithio yn y gwasanaeth tân ac achub yn golygu eich bod yn dod yn rhan o dîm agos, yn ennill arian ychwanegol ac yn derbyn hyfforddiant llawn a pharhaus fel eich bod yn datblygu ystod eang o sgiliau gwaith a bywyd y gellir eu trosglwyddo.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i sicrhau bod y gweithlu yn adlewyrchu'r cymunedau lleol y byddant yn gweithio ynddynt ac felly croesawu ymholiadau gan bawb, nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, ond bydd angen arnoch:
- Awydd cryf i gefnogi'r gymuned leol
- Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm
- Lefel resymol o ffitrwydd
- Fel arfer yn byw a / neu weithio o fewn amser ymateb penodol (fel arfer pum munud o orsaf dân)
Eisiau ymuno â'n tîm?
Darganfyddwch fwy a chofrestru eich diddordeb yma.
Gallwch gofrestru eich diddordeb yn y broses recriwtio ar gyfer unrhyw un o'n 44 gorsaf dân nawr, ac ar ôl cofrestru, bydd y Gwasanaeth yn cadw mewn cysylltiad â chi ac yn darparu diweddariadau rheolaidd ar y broses recriwtio Diffoddwyr Tân ar alwad.

