#LlosgiIAmddiffyn
PostiwydMae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i #LlosgiIAmddiffyn cefn gwlad Cymru y tymor llosgi hwn.
Wrth i'r haf hir, poeth ddod i ben a’n bod ni’n symud i'r hydref, gyda llystyfiant sych a gostyngiad mewn tymheredd, mae'r tymor llosgi yn dechrau yn swyddogol.
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru eisiau atgoffa ffermwyr a thirfeddianwyr y gall llosgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin ddigwydd o 1 Hydref hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth mewn ardaloedd Ucheldir), fodd bynnag, mae'n rhaid iddynt gael Cynllun Llosgi ar waith i sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel.
Dywedodd Andrew Wright, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth yn Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae 2025 wedi gweld cynnydd digynsail mewn tanau gwyllt ledled Cymru. Gan gyfuno tanau glaswelltir, coetir, cnydau a thanau gwyllt, mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub wedi ymateb i gyfanswm o 3289 o ddigwyddiadau ers mis Ionawr 2025, y nifer fwyaf o ddigwyddiadau ers 2018.
"Fel rheolwyr tir, rydych chi'n chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu ein cymunedau rhag effeithiau dinistriol tanau gwyllt. Mae eich tir a'ch bywoliaeth nid yn unig yn hanfodol i chi ond maent hefyd yn hanfodol i'n hecosystem ehangach ac i’r economi .
"Rydym yn eich annog i weithredu strategaethau atal tanau gwyllt effeithiol wrth losgi eich tir.
"Mae llosgi'ch tir yn gyfrifol yn hanfodol wrth amddiffyn eich asedau, gwarantu diogelwch eich teulu a chynnal cynhyrchiant eich tir tra hefyd yn sicrhau eich bod yn parchu ein cefn gwlad ac yn chwarae eich rhan wrth ddiogelu ein hamgylchedd a chadw ein cymunedau'n ddiogel.
“Mae modd atal llawer o danau gwyllt ac mae yna rai camau syml a newidiadau i ymddygiad a all gyfyngu ar eu nifer a’u heffaith.”
Mae tân wedi bod yn rhan o ecoleg naturiol yr ucheldir a rhai amgylcheddau iseldir ers miloedd o flynyddoedd ac mae hefyd yn un o'r offer rheoli tir hynaf, a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, rheoli hela ac, yn fwy diweddar, rheoli cadwraeth bywyd gwyllt.
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i gydweithio â'u Gwasanaeth Tân lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Undebau i sicrhau eu bod yn llosgi'n gyfrifol ac yn ddiogel. Fel rhan o'u hymgyrch #LosgiiAmddiffyn mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn atgoffa tirfeddianwyr o gyngor syml a fydd yn helpu i gefnogi llosgi cyfrifol:
- Rhowch wybod ymlaen llaw i'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol er mwyn osgoi galwadau diangen a chriwiau’n cael eu danfon allan yn ddiangen yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb os bydd tân yn mynd allan o reolaeth - am Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru, ffoniwch 01931 522 006.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o bobl ac offer i reoli'r tân.
- Gwiriwch gyfeiriad y gwynt a sicrhau nad oes unrhyw risg i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt.
- Os bydd tân yn mynd allan o reolaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth tân ar unwaith gan roi manylion am y lleoliad a sut i gael mynediad ato.
- Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb oruchwyliaeth neu heb ddigon o bobl yn ei reoli.
- Gwnewch yn siŵr bob amser bod tân wedi diffodd yn llwyr cyn i chi ei adael a gwiriwch y diwrnod canlynol i sicrhau nad yw wedi ailgynnau.
Dywedodd Mared Jones, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru: “Mae'n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn parhau i gydweithio i greu tirwedd sy’n iachach, yn fwy gwydn, ac â mwy o fioamrywiaeth yma yng Nghymru, gan wneud popeth allwn ni i ddiogelu'r adnodd gwerthfawr hwn ar gyfer y dyfodol.
"Rydyn ni eisiau gweithio gyda'n ffermwyr a'n tirfeddianwyr i rannu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r effaith y mae tanau bwriadol a damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau. Rydym yn deall y gall llosgiadau dan reolaeth gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy ac rydym ar gael am gyngor rhad ac am ddim ar sut i wneud hyn yn ddiogel."
Trwy gydweithio â chymunedau i rannu gwybodaeth, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn gobeithio rhoi gwell dealltwriaeth o'r hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i gyfyngu ar faint o danau damweiniol sy’n digwydd ac yn ei dro’r difrod y gallant ei achosi i'n hamgylchedd. Dysgwch fwy am #LlosgiIAmddiffyn 2025 drwy #LlosgiIAmddiffyn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, lle gallwch hefyd gael mynediad at rai awgrymiadau diogelwch syml a lawrlwytho negeseuon diogelwch yr ymgyrch i'w defnyddio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol eich hun.
Gyda'n gilydd, gallwn atal tanau glaswellt ac amddiffyn ein cefn gwlad a Chymru.
Cofiwch - Os ydych allan yn mwynhau cefn gwlad a’ch bod chi’n gweld unrhyw weithgaredd amheus, ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.