Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar barhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill

Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar barhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill

Postiwyd

‘Ein pum egwyddor ar gyfer cadw cymunedau'n ddiogel - dweud eich dweud' 

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ei Gynllun Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol ar gyfer 2026-27. 

Dyma'r trydydd gynllun gweithredu blynyddol sy'n cynnwys amcanion a fydd yn parhau i gyflawni yn erbyn Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRRC) 2024-29. 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân Dawn Docx: "Un o amcanion allweddol gwasanaethau tân ac achub Cymru yw lleihau risg yn barhaus ac yn gynaliadwy a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau. 

“Nod Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRRC) yw nodi risgiau sy'n wynebu'r gymuned ac mae'n disgrifio sut y bydd yr Awdurdod Tân ac Achub yn rheoli'r risgiau hynny, ac yn parhau i atal tanau ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill. 

“Ym mis Gorffennaf 2024 cyhoeddwyd ein CRRC pum mlynedd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a'n Cynllun Gweithredu ar gyfer 2024-25, a oedd yn cynnwys amcanion gwella a llesiant i'n galluogi i gyflawni yn erbyn ein hamcanion hirdymor. Gellir cyrchu'r ddau gynllun hyn yma. 

“Rydym nawr am i'n cymunedau gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol ar gyfer 2026-27. 

 “Mae'r ymgynghoriad hwn yn bwysig i bawb yng Ngogledd Cymru ac felly mae gwrando ar eich barn yn bwysig i ni. 

“Rydym eisiau gwybod a ydych yn credu ein bod wedi nodi'r risgiau mwyaf priodol ac a fydd ein cynlluniau a'n hamcanion yn bodloni nodau ein pum egwyddor..” 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub: "Mae adborth gan y rhai sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â'n rhanbarth yn bwysig iawn - rydym am wybod beth yw eich barn am ein cynlluniau cyn i ni fel Awdurdod Tân ac Achub wneud unrhyw benderfyniadau terfynol. 

“Felly, cymerwch amser i gwblhau'r holiadur ymgynghori.  

“Po fwyaf o bobl sy'n cymryd rhan, y mwyaf gwybodus y gallwn fod fel y gallwn sicrhau ein bod yn parhau i gadw ein cymunedau mor ddiogel â phosibl..” 

 

Mae'r ymgynghoriad yn agor ar 23 Hydref 2025 ac yn cau am hanner nos ar 14 Rhagfyr 2025. 

 

I gymryd rhan, ewch i www.tangogleddcymru.llyw.cymru i lenwi'r holiadur ac i gael mynediad at yr holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn ymateb i'r cwestiynau.  Dolen uniongyrchol yma. 

Gallwch ein ffonio neu anfon neges destun atom ar 07920 084 603, neu e-bostio EinPumEgwyddor@tangogleddcymru.llyw.cymru os byddai'n well gennych fformat hawdd ei ddeall neu gopi papur o'r holiadur, y gallwch ei ddychwelyd atom yn rhad ac am ddim. 

Mae yna far offer cynorthwyol ar y wefan gyda swyddogaeth darllen yn uchel, testun mwy ac i weld yr wybodaeth mewn amrywiaeth o ieithoedd ychwanegol.   

 

Dilynwch Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf: 

X/Twitter: @NorthWalesFire 

Facebook: @Northwalesfireservice 

Neu chwiliwch am 'Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru' ar LinkedIn 

Yr Awdurdod Tân fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol - bydd manylion y cyfarfod penderfynu ar gael ar www.tangogleddcymru.llyw.cymru, ynghyd â chofnod o'r trafodion.  

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen