Mae criwiau tân wedi bod yn mynd i'r afael â thân sylweddol ar Fynydd Bodafon, Ynys Môn, ers tua 20:39, Awst 22. Ar anterth y digwyddiad, roedd chwe pheiriant tân a phedwar cerbyd tân gwyllt yn bresennol.
Mae ein criwiau wedi gadael y lleoliad ar hyn o bryd, ond bydd swyddogion yn dychwelyd i'r ardal heno, Awst 26 i fonitro'r amodau.
Hoffem roi sicrwydd i drigolion, er y gall mwg a fflamau bach achlysurol fod yn weladwy , mae'n annhebygol y bydd y tân yn lledaenu ymhellach.
Fodd bynnag, os yw unrhyw breswylydd yn credu bod eu heiddo mewn perygl dros nos, dylent ffonio 999 ar unwaith.
Rydym hefyd yn cynghori trigolion cyfagos i gadw ffenestri a drysau ar gau oherwydd mwg parhaus yn yr ardal.