Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dyn yn marw wedi tân yng Nghaernarfon

Dyn yn marw wedi tân yng Nghaernarfon

Postiwyd

Bu farw dyn yn dilyn tân mewn eiddo ar Lon y Bryn Caernarfon, ar ddydd Sadwrn 16 Awst.

Cafodd criwiau o Gaernarfon, Bangor, Llanberis a Chaergybi eu galw i ymateb i'r digwyddiad am tua 3.45pm. Er ymdrechion gorau'r rhai a fynychodd, ddarganfuwyd y dyn yn farw tu mewn i’r adeilad.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru bellach ar y gweill i sefydlu achos y tân.

Nid yw adnabyddiaeth ffurfiol wedi digwydd eto, ond mae perthnasau agosaf y dyn wedi cael gwybod.

Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg anodd iawn hon.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen