‘Ffeindiwch eich Fflôt’ ar Ddiwrnod Atal Boddi'r Byd
PostiwydMae staff y Gwasanaeth yn ymuno â phartneriaid ar gyfer Diwrnod Atal Boddi'r Byd ddydd Gwener hwn ac yn helpu i ledaenu neges a allai achub bywydau i'n cymunedau – 'Ffeindiwch eich fflôt!'
Bydd ymgyrch y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol ‘Ffeindiwch eich fflôt’ yn gweld gweithgareddau yn cael eu cynnal ledled y DU.
Yma yng Ngogledd Cymru, bydd yn ymuno â phartneriaid ar gyfer dau ddigwyddiad ymwybyddiaeth diogelwch dŵr cyhoeddus - un yn Llyn Tegid, Y Bala rhwng 10am a 3pm ac un yn Llyn Padarn, Llanberis rhwng 12pm a 4pm.
Bydd Uned Achub Dŵr y Gwasanaeth yn bresennol yn y ddau ddigwyddiad gan gynnal arddangosiadau ymarferol a gweithgareddau diogelwch dŵr, tra bydd sesiynau Nofio'n Ddiogel yn cael eu cynnal gan bartneriaid o Byw'n Iach Gwynedd yn Llyn Tegid a Phlas Menai yn Llyn Padarn. Mae angen archebu lle ar gyfer y sesiynau Nofio Diogel a gallwch wneud hynny drwy ddilyn y dolenni isod:
Ymhlith y partneriaid a'r cefnogwyr eraill sy'n mynychu'r digwyddiadau, mae Debbie Ann Turnbull MBE yno gyda River and Sea Sense – Water Education, yr RNLI, Gwylwyr y Glannau, Timau Achub Mynydd, Reach and Rescue, Pete Lewin Newfoundlands a 2 Wish.
Dywedodd Gwyn Roberts, Rheolwr Gwylfa, Diogelwch Tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Arweinydd Diogelwch Dŵr: "Rydyn ni'n dod at ein gilydd i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo diogelwch, a chyflwyno negeseuon hanfodol fel 'Arnofio i Fyw' a 'Galw, Dweud, Taflu'.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu aelodau o'r cyhoedd i'r digwyddiadau hyn a chodi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr - mae croeso i bawb."