Digwyddiadau diogelwch dŵr wedi eu cynnal yng Ngogledd Cymru i nodi Diwrnod Atal Boddi y Byd 2025
PostiwydYmunodd staff â phartneriaid ar gyfer sesiynau codi ymwybyddiaeth yn Llyn Tegid (Y Bala) a Llyn Padarn (Llanberis) ddydd Gwener diwethaf i nodi Diwrnod Atal Boddi y Byd.
Staff yn y digwyddiad yn Llyn Tegid, Bala
Staff yn y digwyddiad yn Llyn Padarn, Llanberis
Roedd y digwyddiadau yn hyrwyddo ymgyrch 'Ffeindiwch eich fflôt’ y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol a gwelodd staff yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau i godi ymwybyddiaeth am beryglon posibl dŵr agored.
Roedd Uned Achub Dŵr y Gwasanaeth yn bresennol yn y ddau leoliad yn cynnal arddangosiadau ymarferol a gweithgareddau diogelwch dŵr, tra bod sesiynau Nofio'n Ddiogel yn cael eu cynnal gan bartneriaid Byw'n Iach Gwynedd yn Llyn Tegid a Phlas Menai yn Llyn Padarn.
Ymhlith y partneriaid a'r cefnogwyr eraill a oedd yn bresennol yn y digwyddiadau roedd Debbie Ann Turnbull MBE gyda ‘River and Sea Sense – Water Education’, yr RNLI, Gwylwyr y Glannau, Timau Achub Mynydd, Reach and Rescue, Pete Lewin Newfoundlands a 2 Wish.
Dywedodd Paul Kay, Pennaeth Diogelwch Tân ac Achub Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Chadeirydd y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol: "Rwy'n falch iawn bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gallu ymuno â'n partneriaid ar gyfer digwyddiadau diogelwch dŵr eto eleni i nodi Diwrnod Atal Boddi y Byd a chefnogi ymgyrch ‘Ffeindiwch eich fflôt’ y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol.
"Hoffwn ddiolch i'n timau am eu gwaith caled yn trefnu'r digwyddiadau pwysig hyn i helpu i godi ymwybyddiaeth o dechnegau atal boddi hanfodol a allai fod yn hanfodol i helpu i achub bywyd rhywun mewn argyfwng.
"Roedd yr adborth gan y rhai a oedd yn bresennol yn wych ac rwy'n gobeithio bod y rhai a ymunodd â ni yn y digwyddiadau hyn wedi gadael ar ôl dysgu cyngor hanfodol i achub bywydau.
"Cofiwch, os ydych chi byth yn cael trafferth yn y dŵr yn annisgwyl, bydd eich greddfau yn dweud wrthych chi am nofio'n galed. Ond gall sioc dŵr oer wneud i chi anadlu heb reolaeth a all achosi i chi anadlu dŵr i mewn a boddi. Yn lle hynny, cofiwch 'Arnofiwch i fyw'.
"Y ffordd orau o arnofio yw rhoi’ch pen yn ôl gyda'ch clustiau dan ddŵr. Ceisiwch ymlacio ac anadlu fel arfer. Gallwch symud eich dwylo yn ysgafn i'ch helpu i aros ar y dŵr os oes angen. Lledaenwch eich breichiau a'ch coesau allan i wella sefydlogrwydd - ac mae'n iawn os yw'ch coesau'n suddo, rydyn ni i gyd yn arnofio'n wahanol. Unwaith y bydd eich anadlu dan reolaeth, galwch am help neu nofiwch i ddiogelwch."