Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymateb i Graen ar dan yn Nhwnnel Conwy

Postiwyd

firefighters conwy tunnel

Gweithredodd ymatebwyr aml-asiantaeth Gogledd Cymru yn gyflym ac yn broffesiynol yn dilyn tân sylweddol o graen yn Nhwnnel Conwy tua'r gorllewin ar yr A55, a achosodd aflonyddwch mawr a sbarduno ymateb brys cymhleth.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei rybuddio am y digwyddiad am 13:48 brynhawn Iau 19.06.25. Cafodd y Cynllun Tactegol Gweithredol y Gwasanaeth ei rhoi yn ei le ar unwaith. Cafodd y cynllun hwn ei ddatblygu trwy ymarferion parodrwydd argyfwng ar y cyd gydag asiantaethau partner. Yng sgîl graddfa'r aflonyddwch a'r galw am adnoddau, datganodd y gwasanaeth Ddigwyddiad Mawr am 14:59, a gafodd ei ddidymu wrth i'r sefyllfa gael ei reoli.

Mae delweddau yn dangos yr ymdrechion i ymateb i'r digwyddiad.

craen twnnel conwy

Cafodd 10 offer tân, 4 cerbyd arbenigol, uned les, ac 8 swyddog eu darparu i’r digwyddiad. Gweithiodd criwiau mewn gwres dwys ac amodau twnnel anodd i ddod â'r tân dan reolaeth erbyn 16:20. Yn ffodus, nid oedd unrhyw farwolaethau.

craen twnnel conwy

Arhosodd timau tân ac achub ar y safle gyda’r nos ochr yn ochr â phartneriaid gan gynnwys pheirianwyr strwythurol Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru i gwblhau asesiadau diogelwch hanfodol. Roedd eu hymdrechion wedi galluogi’r twnnel I ailagor tua'r dwyrain o dan system wrthlif yn oriau mân y bore Gwener 20.06.25.

Drwy gydol y digwyddiad, gweithiodd y Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru mewn cydweithrediad agos â Heddlu Gogledd Cymru, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, ac asiantaethau partner eraill i ddiogelu'r cyhoedd, rheoli gweithrediadau adfer a chyhoeddi negeseuon diogelwch yn amserol.

Dywedodd Mike Plant, Pennaeth Cynllunio, Perfformiad a Thrawsnewid Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

"Roedd yr ymateb i'r digwyddiad hwn yn dangos proffesiynoldeb, gwytnwch a gwaith tîm rhagorol. Roedd ein criwiau, swyddogion, a staff rheoli yn gweithredu o dan amgylchiadau hynod heriol, ac roedd eu gweithredoedd cyflym, penderfynol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth atal y tân rhag ledaenu.

Hoffwn ddiolch o galon i holl staff y Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru a'n partneriaid a gefnogodd yr ymateb ac a helpodd i ddiogelu ein cymunedau."

Mae'r digwyddiad hwn yn pwyselisio pwysigrwydd hanfodol cydweithredu ar y cyd ac ymarferion parodrwydd aml-asiantaeth arferol, sy'n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau ymateb brys effeithiol ar y cyd.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen