Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rheolwr Gwylfa Aberdyfi a Thywyn wedi'i enwi ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2025

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn falch iawn o rannu'r newyddion bod Louis Hiatt, Rheolwr Gwylfa Aberdyfi/Tywyn, wedi'i enwi ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2025.

Bydd Louis yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM), sy'n cael ei dyfarnu i unigolion i gydnabod eu gwasanaeth sifil neu filwrol teilwng.

Dywedodd Louis: "Sioc ac anrhydedd yw cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon.

"Mae'n hyfryd gweld bod pobl eraill yn gweld y gwaith da rydyn ni'n ei wneud yn ein cymuned ac i geisio gwneud gwahaniaeth i lawer o fywydau."

Cafodd Louis ei enwebu gan y Gwasanaeth ar gyfer rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2025 am ei wasanaethau i'r gymuned leol fel Diffoddwr Tân Ar Alwad a thrwy ei weithgareddau gwirfoddoli a chodi arian.

Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Dawn Docx: "Hoffwn longyfarch Louis am y cyflawniad gwych hwn, mae'n haeddiannol iawn. 

"Mae gwaith cymunedol Louis, sy’n mynd y tu hwnt i'w ddyletswyddau, wedi gwella cyfraddau recriwtio a chadw Diffoddwyr Tân ar Alwad yn Aberdyfi a Thywyn, ac mae hynny’n cael effaith sylweddol ar ddiogelwch a gwydnwch ei gymuned. Mae gan y ddwy orsaf wledig sydd o dan ei reolaeth rai o'r lefelau uchaf o argaeledd yn ardal y Gwasanaeth, ac mae hynny’n dyst i'w ddull rheoli cadarnhaol a chymunedol.

"Yn ogystal â hyn, mae Louis wedi dangos brwdfrydedd mawr am hanes diffodd tân ac ymgysylltu â'r gymuned leol trwy weithgareddau fel adfer injan dân a oedd wedi'i lleoli yn Nhywyn 60 mlynedd yn ôl, sydd bellach yn cael ei harddangos yn gyhoeddus yn yr orsaf, a threfnu diwrnod agored yng Ngorsaf Dân Aberdyfi i ddathlu 125 mlynedd o wasanaeth diffodd tân yn y pentref.

"Ar ben ei waith gyda'r Gwasanaeth, mae Louis yn adnabyddus yn yn eang yn ei gymuned leol am ei ymdrechion codi arian ac elusennol. Mae hyn yn cynnwys bod yn Ymddiriedolwr ar gyfer Neuadd Dyfi, neuadd bentref Aberdyfi sy'n cynnal llawer o ddigwyddiadau, fel Pantomeimiau Chwaraewyr Aberdyfi, y mae Louis wedi bod yn rhan ohonynt ers blynyddoedd lawer ac wedi gweithredu fel Cadeirydd am y 12 diwethaf lle mae'n cydlynu dros 150 o aelodau.

"Hoffwn ddiolch i Louis am ei flynyddoedd lawer o ymroddiad a gwasanaeth ffyddlon, nid yn unig i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ond hefyd i bobl ei gymuned. Mae ei stori yn dyst go iawn i'r gwerth y mae ein Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn ei ychwanegu at eu cymunedau, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n awyddus i gael cyfle i roi rhywbeth yn ôl i'w cymuned leol i ystyried ymuno â'r Gwasanaeth fel Diffoddwr Tân Ar Alwad."

 

Ydych chi eisiau helpu i wneud gwahaniaeth go iawn yn eich cymuned leol? - Mae eich gorsaf dân leol eich angen chi!

Mae ein Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn dod o bob cefndir – yn aml mae ganddyn nhw swyddi neu ddiddordebau eraill.

Gall y rôl fod yn heriol ac yn anodd ei rhag-weld, ond yn fwy na dim mae'n dod â boddhad mawr.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru angen pobl fel chi i helpu i ddiogelu eich cymuned leol.

Gallwch ddarganfod mwy am y rôl a chofrestru eich diddordeb yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen