Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cerbyd ar dân Twnnel Conwy – Y wybodaeth ddiweddaraf

Postiwyd

diweddariad injan dan

Cyhoeddwyd digwyddiad mawr ddoe yn dilyn tân cerbyd yn Nhwnnel Conwy ar yr A55 tua'r gorllewin. Cafwn wybod am y ddigwyddiad am 13:48, sbardunodd y digwyddiad ymateb aml-asiantaeth ar unwaith. Diolch i ymdrechion cyflym ac effeithiol yr holl dimau, daeth y tân dan reolaeth, a gallwn gadarnhau nad oedd unrhyw farwolaethau.

Heddiw, mae'r cynnydd yn parhau: mae system wrth-lif  wedi cael ei rhoi ar waith yn y twnnel tua'r dwyrain, gan ganiatáu un lôn o draffig i deithio ym mhob cyfeiriad. Mae'r twnnel tua'r gorllewin yn parhau i fod ar gau ar hyn o bryd wrth i archwiliadau manwl ac asesiadau diogelwch fod ar y gweill.

Cynghorir modurwyr i:

  • Caniatáu amser ychwanegol ar gyfer teithiau.
  • Cynlluniwch eich llwybrau ymlaen llaw a dilynwch y canllawiau traffig diweddaraf.
  • Cadwch golwg ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Traffig Cymru yn rheolaidd i gael diweddariadau traffig a theithio.

Gyda phenwythnos prysur a heulog o'n blaenau, disgwylir tagfeydd - yn enwedig ar hyd yr A55 a'r llwybrau cyfagos.

Er eich diogelwch os ydych chi'n cael eich dal mewn tagfeydd:

  • Arhoswch yn eich cerbyd oni bai ei bod yn anniogel gwneud hynny.
  •  Cadwch eich injan i ffwrdd os yw'n llonydd am gyfnodau hir.
  •  Os yw ar gael, defnyddiwch y system aerdymheru, neu cadwch y ffenestri yn gil-agored, i gadw tu mewn eich cerbyd yn oer
  •  Cadwch dŵr yfed yn eich car os ydych chi'n cychwyn ar deithiau hir.

Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd unwaith eto am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus wrth i'r gwaith barhau i ailagor y twnnel yn llawn ac i adfer amodau traffig arferol.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen