Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymateb Aml-Asiantaeth i Storm Darragh

Postiwyd

Yng dilyn Rhybudd Coch y Swyddfa Dywydd am wyntoedd cryf iawn a Rhybuddion Oren Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd, mae timau aml-asiantaeth Gogledd Cymru yn gweithio’n ddiflino i amddiffyn cymunedau a lleihau unrhyw effeithiau posib #StormDarragh y penwythnos hwn.

Dywedodd Uwcharolygydd Owain Llewellyn: "Diogelwch ein trigolion yw ein prif flaenoriaeth. Disgwylir i Storm Darragh ddod â gwyntoedd eithriadol o gryf o 3am i 11am ddydd Sadwrn, gan beri bygythiad posibl i fywyd, ynghyd â risgiau sylweddol o lifogydd mewn rhai ardaloedd.

“Rydym yn annog pawb i gymryd y rhybuddion hyn o ddifrif, osgoi teithio diangen yn ystod y cyfnod hwn a dilyn pob cyngor swyddogol i gadw’n ddiogel.

“Hyd yn oed os nad ydych chi mewn ardal sydd wedi’i heffeithio gan y rhybudd coch am wyntoedd cryfion mae’r rhybudd oren am lifogydd hefyd yn arwyddocaol ac yn effeithio ar y rhan fwyaf o Ogledd Cymru.

“Trwy gydweithio a dilyn canllawiau swyddogol, gallwn helpu i sicrhau diogelwch pawb yn ystod #StromDarragh.”

Mae asiantaethau aml-Gogledd Cymru yn cydweithio i:

  • Cydlynu ymdrechion rhwng y gwasanaethau brys, cynghorau lleol, a Chyfoeth Naturiol Cymru.
  • Paratoi unrhyw amddiffynfeydd llifogydd allweddol ac archwilio seilwaith hanfodol i leihau'r risg o ddifrod.
  • Sicrhau bod cefnogaeth ar gael i drigolion bregus.

Parhaodd yr Uwcharolygydd Llewellyn: “Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod cynlluniau cadarn ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw heriau a ddaw yn sgil y tywydd garw hwn. Fodd bynnag, rydym hefyd angen eich help i aros yn ddiogel:

  • Arhoswch dan do ac osgoi teithio yn ystod cyfnod y Rhybudd Coch oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.
  • Sicrhewch unrhyw eitemau rhydd y tu allan i'ch eiddo a allai achosi risg mewn gwyntoedd cryfion.
  • Dilynwch y wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau dibynadwy.”

Ble i ddod o hyd i Wybodaeth a Chyngor:

Cadwch yn ddiogel a gwyliwch am ddiweddariadau pellach #StormDarragh ar gyfryngau cymdeithasol gan:

  • Diweddariadau tywydd: Y Swyddfa Dywydd
  • Heddlu Gogledd Cymru
  • Rhybuddion llifogydd: Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Diweddariadau trafnidiaeth: Traffig cymru
  • Awdurdodau Lleol: Conwy, Gwynedd, Wrecsam, Sir Ddinbych ac Ynys Môn
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

Byddwch #YmwybodolO’rTywydd a #cymrwchofal - gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio ymlaen llaw cyn teithio ac ystyriwch a yw eich taith yn hanfodol ai peidio.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen