Gweithiodd ymatebwyr amlasiantaeth Gogledd Cymru yn ddiflino i amddiffyn cymunedau a lleihau effaith #StormDarragh y penwythnos hwn.
Dros y penwythnos cawsom 202 o alwadau yn ymwneud â'r tywydd garw i'n hystafell reoli. Cafodd 188 o'r rhain eu derbyn ar ddydd Sadwrn.
Dywedodd Anthony Jones, Pennaeth Cynllunio, Perfformiad a Thrawsnewid Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
"Fe aethon ni i ddigwyddiadau gan gynnwys y rhai oedd yn ymwneud â strwythurau peryglus oherwydd y gwynt, coed wedi disgyn, gosodiadau trydanol a gafodd eu heffeithio, tanau mewn tai oherwydd problemau trydanol a digwyddiadau llifogydd mewnol/allanol - gan gynnwys gyrru trwy ddŵr llifogydd.
"Hoffwn ddiolch i'n staff a'n cydweithwyr ymroddedig yn ein sefydliadau partner a weithiodd drwy gydol y cyfnod prysur hwn i helpu i ddiogelu ein cymunedau.
"Hoffwn ddiolch hefyd i'r cyhoedd a ddangosodd ddealltwriaeth ac amynedd wrth ddilyn ein cyngor yn ymwneud â thywydd garw.
"Yn anffodus, fe gawsom nifer o alwadau unwaith eto gan bobl a yrrodd drwy ddŵr llifogydd a chael eu hunain mewn trafferthion. Roedd y galwadau hyn yn cymryd amser ein staff yn yr ystafell reoli a'n criwiau ymateb mewn cyfnod pan oedd ein adnoddau dan bwysau.
"Byddem yn apelio ar bawb i wrando ar ein cyngor a chyngor ein partneriaid - gan gynnwys cadw draw o ardaloedd dan lifogydd ac osgoi gyrru trwy ddŵr llifogydd."