Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

#LlosgiIAmddiffyn

Postiwyd

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr i #LosgiIAmddiffyn cefn gwlad Cymru y tymor llosgi hwn.

Gan gydnabod bod tân wedi bod yn rhan o ecoleg naturiol ucheldir a rhai amgylcheddau iseldir ers miloedd o flynyddoedd, a'i fod hefyd yn un o'r dulliau o reoli tir hynaf a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth, rheoli anifeiliaid hela ac, yn fwy diweddar, rheoli cadwraeth bywyd gwyllt, mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn annog tirfeddianwyr i weithio ar y cyd â'u Gwasanaeth Tân lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Undebau Ffermio i sicrhau eu bod yn llosgi'n gyfrifol ac yn ddiogel.

Dywedodd Iwan Cray, Cadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru a Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru:

"Fel rheolwyr tir, mae gennych ran hanfodol yn y gwaith o ddiogelu ein cymunedau rhag effeithiau dinistriol tanau gwyllt. Mae eich tir a'ch bywoliaeth nid yn unig yn hanfodol i chi ond maen nhw hefyd yn hanfodol i'n ecosystem ehangach ac i’r economi.

"Rydyn ni’n eich annog i weithredu strategaethau atal tanau gwyllt effeithiol wrth losgi eich tir.

"Mae llosgi'ch tir mewn modd cyfrifol yn hanfodol er mwyn amddiffyn eich asedau, sicrhau diogelwch eich teulu a chynnal cynhyrchiant eich tir tra hefyd yn sicrhau eich bod yn parchu cefn gwlad ac yn chwarae eich rhan i ddiogelu ein hamgylchedd a chadw ein cymunedau'n ddiogel."

Y Cod Llosgi Grug a Glaswellt.

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn parhau i weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru, a gyda'n gilydd rydym yn ceisio atal colli bioamrywiaeth yng Nghymru. Rydym yn deall y gall llosgi dan reolaeth fod yn fuddiol ac yn dda i’n tirwedd, a’i fod yn meithrin amrywiaeth fiolegol ac yn creu ecosystemau iachach.

Gall ffermwyr a thirfeddianwyr losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin o 1 Hydref hyd at 15 Mawrth (hyd at 31 Mawrth ar ucheldir), ond rhaid iddyn nhw gael Cynllun Llosgi er mwyn sicrhau eu bod yn llosgi'n ddiogel. Mae'n anghyfreithlon llosgi rhwng machlud haul a’r wawr, ac mae'n rhaid sicrhau bod digon o bobl ac offer wrth law trwy’r adeg er mwyn rheoli'r llosgi. Gall torri'r rheolau hyn arwain at gosb o hyd at £1000. Rydym eisiau gweithio gyda'n tirfeddianwyr lleol i sicrhau nad yw hyn yn digwydd. Gallwch gysylltu â ni am gyngor rhad ac am ddim ar losgi diogel, ac mae mwy o wybodaeth am Ddiogelwch Ffermydd i’w gael yma.

Gallwch ddysgu mwy am y Cod Llosgi Grug a Glaswellt – a lawrlwytho Cynllun Rheoli Llosgi o Wefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn ffenestr/tab newydd).

Fel rhan o'n hymgyrch Llosgi i Ddiogelu, mae Bwrdd Tân Gwyllt Cymru yn atgoffa tirfeddianwyr o gyngor syml a fydd yn helpu i sicrhau llosgi cyfrifol:

  • Rhowch wybod ymlaen llaw i'ch Gwasanaeth Tân ac Achub lleol er mwyn osgoi galwadau diangen a chriwiau’n cael eu hanfon allan heb eisiau yn ogystal â sicrhau ein bod yn barod i ymateb os bydd llosgi’n mynd allan o reolaeth.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych chi ddigon o bobl ac offer i reoli'r tân.
  • Gwiriwch gyfeiriad y gwynt a sicrhau nad oes unrhyw risg i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt.
  • Os bydd tân yn mynd allan o reolaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth tân ac achub ar unwaith gan roi manylion am y lleoliad a mynediad.
  • Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn gofalu amdano neu heb ddigon o bobl i’w reoli.
  • Gwnewch yn siŵr bob amser fod tân wedi diffodd yn llwyr cyn i chi ei adael a gwiriwch drannoeth i sicrhau nad yw wedi ailgynnau.

Dywedodd Andrew Wright, Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru ac Uwch Gynghorydd Arbenigol - Iechyd Planhigion a Throsglwyddo Gwybodaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae'n hanfodol bwysig ein bod i gyd yn parhau i gydweithio i greu tirwedd sy’n iachach, yn fwy gwydn, ac â mwy o fioamrywiaeth yma yng Nghymru, gan wneud popeth allwn ni i ddiogelu'r adnodd gwerthfawr hwn ar gyfer y dyfodol.

“Rydyn ni eisiau gweithio gyda chymunedau, ffermwyr, a pherchnogion tir er mwyn rhannu ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r effaith mae tanau bwriadol a damweiniol yn ei chael ar ein cymunedau. Rydyn ni’n deall bod llosgi dan reolaeth yn gallu cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, gan greu bioamrywiaeth ac ecosystem gynaliadwy ac rydyn ni ar gael i roi cyngor am ddim ar sut i wneud hyn yn ddiogel.”

Os gwelwch chi dân sy'n edrych fel y gallai fod allan o reolaeth neu'n cael ei losgi'n anghyfreithlon, yna ffoniwch Taclo’r Tacle/CrimeStoppers (agor ffenestr/tab newydd) yn ddienw ar 0800 555 111, neu ffoniwch 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

Ynglŷn â Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru

Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn ddull aml-asiantaethol o wella ein dealltwriaeth a’n rheolaeth o’r perygl y mae tanau gwyllt yn ei achosi i amgylchedd a chymunedau Cymru.

Mae ei nodau a’i amcanion, a gyflwynir trwy Siarter Tanau Gwyllt Cymru, yn adeiladu ar y sylfaen o wybodaeth a phrofiad a enillwyd dros y degawd diwethaf, tra’n ystyried perygl hollbresennol newid hinsawdd yn ogystal â chydnabod gwerth annog cymunedau ac unigolion i weithio gyda’i gilydd i ddiogelu'r ardaloedd lle maen nhw’n byw ac yn gweithio ac ardaloedd maen nhw’n ymweld â nhw.

Amcan y bwrdd yw ymgysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol, cydweithio er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli tanau gwyllt, a gwrando a rhannu datrysiadau ymarferol ar gyfer Cymru. Trwy ddefnyddio’r dull cydweithredol hwn, mae’r asiantaethau sy’n rhan o Fwrdd Tanau Gwyllt

Cymru yn gobeithio sicrhau gwell dealltwriaeth o'r hyn y gellir ei wneud i gyfyngu ar nifer y tanau gwyllt, a thrwy hynny leihau'r difrod y gallan nhw ei achosi i'n hamgylchedd.

Gweithio gyda'n gilydd i amddiffyn Cymru a’n cefn gwlad

Rhwng Ionawr 2022 ac Ionawr 2024, ymatebodd Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru i 5111 o danau glaswellt, gyda 1232 ohonyn nhw o fewn ardal Gwasanaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Bydd dull Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru o reoli’r risg o danau gwyllt yn cynnwys tair thema allweddol, gyda phob un wedi’i chynllunio er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar y meysydd sydd nid yn unig angen y sylw mwyaf ond hefyd a fydd yn cael y dylanwad mwyaf o ran gwella’n dealltwriaeth o danau gwyllt a sut y gall y Bwrdd reoli eu heffaith yn gadarnhaol.

  • Partneriaethau - Trwy weithio mewn dull partneriaeth sy'n esblygu, byddwn yn dod â Llywodraeth Cymru, y Gwasanaethau Brys, Sefydliadau Cyhoeddus a Phreifat, Tirfeddianwyr a Defnyddwyr Tir at ei gilydd i reoli ac i ddatblygu ein tirwedd.
  • Gwydnwch Amgylcheddol a Chymunedol - Byddwn yn cyfrannu at reoli ein tirwedd er mwyn diogelu bywyd gwyllt; coedwigaeth a bywoliaethau; gwella lles, iechyd ac amwynderau, hwyluso cynhyrchu bwyd cynaliadwy, a chreu ymdeimlad o le a pherchnogaeth gymunedol.
  • Atal ac Amddiffyn - Byddwn yn gweithredu ystod amrywiol o dechnegau rheoli er mwyn lleihau effaith tanau gwyllt ar ein cymunedau a'r dirwedd yng Nghymru.

Cofiwch fod cynnau tanau bwriadol yn drosedd.

Er y gall damweiniau ddigwydd, mae rhai yn ein cymunedau sy'n mynd ati’n fwriadol i gynnau tanau yng nghefn gwlad. Mae cynnau tân bwriadol yn drosedd ac mae'r Tasglu yn apelio am wybodaeth am unrhyw un sy'n cynnau tanau yn fwriadol i ffonio 101, neu i adrodd yn ddienw i Taclo’r Tacle/CrimeStoppers (agor ffenestr/tab newydd) ar 0800 555 111. Mae dienw yn golygu na fydd eich rhif ffôn symudol, eich cyfeiriad, na lleoliad eich galwad yn cael eu tracio. Bydd y rhai sy'n cael eu dal yn cael eu herlyn.

Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan ein tîm Lleihau Tanau Bwriadol, tîm datrys problemau penodol ar gyfer lleihau a dileu cynnau tanau bwriadol. Mae'r tîm yn cynnwys Swyddog Heddlu ar secondiad, Swyddog Tân a thri chynghorydd tanau bwriadol arbenigol, sy’n sicrhau bod pob digwyddiad yn cael ei ymchwilio a'i ddadansoddi’n drylwyr er mwyn gwneud ein cymunedau'n fwy diogel. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i dargedu ardaloedd problemus ac i ddatblygu ffyrdd o leihau tanau bwriadol a nodi pwy neu beth allai gael eu heffeithio, yn gyson. Gallwch ddarganfod mwy am waith ein Tîm Lleihau Tanau Bwriadol yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen