Diweddariad Storm Darragh - Nos Sul 8.12.24
PostiwydMae sefyllfa’r tywydd yn parhau i wella heno ar draws gogledd Cymru, fodd bynnag, mae rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwynt yn ei le ar draws yr ardal tan 6pm heno.
Mae ymateb aml-asiantaeth i glirio coed sydd wedi syrthio a malurion o ffyrdd a mannau cyhoeddus eraill wedi parhau drwy gydol y dydd ac mae staff ar draws yr holl asiantaethau wedi gwneud cynnydd mawr wrth glirio ac ail-agor ffyrdd a’r rhwydwaith rheilffyrdd.
Mae tua 8,000 o eiddo yn parhau heb drydan ar hyn o bryd. Cysylltwch â 105 os oes angen cymorth arnoch ac yn fregus a heb bŵer i'ch cartref. Mae peirianwyr allan ar draws yr ardal yn gweithio i ddod â'r pŵer yn ôl cyn gynted â phosib.
Hoffem atgoffa’r cyhoedd i ddal i fod yn ofalus tra allan heno gan fod perygl y bydd coed a theils to yn disgyn, a allai fod wedi’u heffeithio gan y storm.
Meddai’r Uwcharolygydd Alwyn Williams “Er bod cynnydd mawr wedi’i wneud heddiw yng ngwaith adfer y storm, rydym yn ymwybodol bod llawer o bobl yn dal heb bŵer yn eu cartrefi heno. Byddwn yn eich annog i gadw llygad am unrhyw gymdogion neu deulu bregus yr ydych yn ymwybodol ohonynt sydd heb bŵer ac adrodd am hyn ar 105.
“Ewch i wefan SP Energy am amcangyfrif o amser adfer pŵer yn eich ardal. Power Cuts - SP Energy Networks
“Hoffwn ddiolch i bawb am eu hamynedd tra bod pob asiantaeth yn gwneud eu gorau i ddod â’r sefyllfa yn ôl i normal.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl staff o’r holl asiantaethau sy’n dal i weithio i helpu gydag adferiad y storm heddiw. Tra bod y sefyllfa’n gwella, mae cartrefi dal heb bŵer ar draws Gogledd Cymru ac mae rhybuddion llifogydd yn dal i fod mewn grym ar hyn o bryd yn ardal y Dwyrain.”
Dilynwch ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol gan:
- Swyddfa Dywydd (tywydd)
- Cyfoeth Naturiol Cymru (llifogydd)
- Traffig Cymru (ffyrdd)
- Awdurdodau lleol (amhariad lleol)
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (diweddariadau tân a llifogydd)
- Rhwydwaith Ynni SP (toriadau pŵer)