Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad ar #StormDarragh

Postiwyd

Mae rhybuddion tywydd ar gyfer gwynt a glaw yn dal mewn grym ar draws Gogledd Cymru a byddant yn parhau tan yn gynnar bore fory.

Bydd ymateb aml-asiantaeth i glirio coed a malurion sydd wedi disgyn o ffyrdd a mannau cyhoeddus eraill yn ailddechrau yfory (8 Rhagfyr), yn ystod oriau golau dydd.

Hoffem atgoffa’r cyhoedd i fod yn ofalus tra allan yfory.

Er eu bod yn llai difrifol, bydd rhybuddion tywydd yn parhau yn eu lle a bydd peryg o goed a theils to, a allai fod wedi cael eu gwanhau gan y storm, disgyn.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Owain Llewellyn: “Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am wrando ar gyngor y Gwasanaethau Brys yn ystod Storm Darragh. Mae eich cefnogaeth wedi caniatáu i ni anfon adnoddau i ddigwyddiadau a'r ardaloedd mwyaf anghenus a darparu ymateb brys effeithiol o dan amgylchiadau anodd. Rwyf hefyd yn hynod ddiolchgar i’n partneriaid am eu gwaith caled parhaus ar draws gogledd Cymru.”

Dilynwch ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol gan:

  • Y Swyddfa Dywydd (tywydd)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (llifogydd)
  • Traffig Cymru (ffyrdd)
  • Awdurdodau lleol (aflonyddwch lleol)
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (tanau a llifogydd)

Byddwch yn #YmwybodolOrTywydd, osgoi teithio, yn enwedig yn ystod oriau tywyll, a monitro diweddariadau yn rheolaidd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen