Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad ar Storm Darragh – tarfu yn parhau er gwaethaf rhybudd coch am wynt cryf yn dod i ben

Postiwyd

Mae ymatebwyr aml-asiantaeth gogledd Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth i amddiffyn cymunedau gan fod #StormDarragh wedi dod â thywydd garw dros nos.

Er bod y Rhybudd Coch am wyntoedd cryfion bellach wedi dod i ben, mae Rhybudd Ambr yn parhau yn ei le tan 21.00 o'r gloch, sy'n golygu bod disgwyl i amodau tywydd garw barhau.

Mae dŵr arwynebol eang a llifogydd lleol, gyda nifer o ffyrdd ar gau ledled y rhanbarth—gan gynnwys cefnffyrdd a llwybrau llai. Mae coed sydd wedi cwympo a malurion yn ychwanegu at yr aflonyddwch.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Owain Llewellyn:

“Diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth o hyd. Mae ymatebwyr yn profi galw sylweddol, felly ceisiwch osgoi teithio diangen a dilynwch gyngor swyddogol.

“Rydym yn annog pob gyrrwr yn gryf i osgoi ceisio gyrru drwy unrhyw ddŵr llifogydd. Mae cerbydau syln sownd nid yn unig yn dargyfeirio adnoddau brys hanfodol oddi wrth ddigwyddiadau critigol ond gallant hefyd waethygu llifogydd mewn eiddo cyfagos, gan achosi difrod a risg diangen.

“Rwy’n ddiolchgar i drigolion a’n cydweithwyr aml-asiantaeth ar draws y rhanbarth am eu cydweithrediad a’u hymdrechion diflino yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Gwybodaeth Allweddol:

  • Mae'r gwasanaethau brys, cynghorau lleol, a Chyfoeth Naturiol Cymru yn cydlynu ymatebion ac yn paratoi amddiffynfeydd.
  • Disgwylir amhariad teithio. Edrychwch allan am y wybodaeth ddiweddaraf trwy sianeli dibynadwy.
  • Mae cefnogaeth ar gael i drigolion bregus.

Dilynwch ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol gan:

  • Y Swyddfa Dywydd (tywydd)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (llifogydd)
  • Traffig Cymru (ffyrdd)
  • Awdurdodau lleol (aflonyddwch lleol)
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (tanau a llifogydd) 

Byddwch #YmwybodolO’rTywydd, ceisiwch osgoi teithio os yn bosibl, a chadwch lygad allan am ddiweddariadau.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen