Diweddariad ar Storm Darragh - Dydd Sul 8.12.24
PostiwydDiweddariad ar #StormDarragh
Mae sefyllfa’r tywydd yn gwella heddiw ar draws Gogledd Cymru, fodd bynnag, mae rhybudd tywydd melyn ar gyfer gwynt yn ei le ar draws yr ardal tan 6pm heno.
Mae ymateb aml-asiantaeth i glirio coed sydd wedi syrthio a malurion o ffyrdd a mannau cyhoeddus eraill wedi ailddechrau y bore yma.
Mae tua 11,000 o eiddo yn parhau heb drydan ar hyn o bryd. Cysylltwch â 105 os oes angen cymorth arnoch ac os ydych yn fregus ac heb bŵer i'ch cartref. Mae peirianwyr allan ar draws yr ardal yn gweithio i ddod â'r pŵer yn ôl cyn gynted â phosib.
Hoffem atgoffa’r cyhoedd i fod yn ofalus tra allan heddiw gan fod perygl y bydd coed a theils to yn syrthio, a allai fod wedi’u heffeithio gan y storm.
Mae holl safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau ar gau heddiw er diogelwch y cyhoedd.
Dywedodd yr Uwch Arolgydd Alwyn Williams: Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am wrando ar gyngor y Gwasanaethau Brys yn ystod Storm Darragh. Mae eich cefnogaeth wedi caniatáu i ni anfon adnoddau i ddigwyddiadau a'r ardaloedd mwyaf anghenus a darparu ymateb brys effeithiol o dan amgylchiadau anodd.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r holl staff o’r holl asiantaethau sy’n dal i weithio i helpu gydag adferiad y storm heddiw. Er bod y sefyllfa’n gwella, mae cartrefi’n dal heb bŵer ac mae rhybuddion llifogydd yn dal yn eu lle felly byddwch yn ofalus
Dilynwch ddiweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol gan:
- Y Swyddfa Dywydd (tywydd)
- Cyfoeth Naturiol Cymru (llifogydd)
- Traffig Cymru (ffyrdd)
- Awdurdodau lleol (aflonyddwch lleol)
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (tanau a llifogydd)